4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 11 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:56, 11 Hydref 2022

Dwi'n tynnu sylw at fy natganiad i o fuddiant o ran perchnogaeth eiddo. Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r sylw dwi wedi'i roi yn ddiweddar i'r tenantiaid sydd wedi dweud wrthym ni fod eu landlord nhw yn stad Bodorgan wedi gofyn iddyn nhw adael eu cartrefi er mwyn eu troi nhw'n dai gwyliau. Mae fy mhryder i fan hyn, wrth gwrs, am yr unigolion a'r teuluoedd hynny sy'n wynebu colli eu cartref, ond mae fy mhryder i hefyd ynglŷn â'r impact ar y stoc dai yn lleol. Dwi'n tynnu sylw'r Gweinidog heddiw at lythyr mae etholwr wedi'i anfon ataf i ddoe, wedi'i bostio drwy ddrws ffrynt ym Menllech: