4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 11 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:52, 11 Hydref 2022

Diolch am y cwestiynau pellach hynny. I gychwyn ar y cwestiwn o gyllid, dwi ddim wedi datgan yn y datganiad heddiw yr holl ffynonellau o arian sydd yn berthnasol i'r gwaith rwyf wedi sôn amdano heddiw. Mae yna fuddsoddiad rydym ni wedi ei ddarparu i Cwmpas i gefnogi'r gwaith o ran darparu cynlluniau mentrau cydweithredol a thai, fel ein bod ni'n dwyn o brofiad mentrau cydweithredol fel PLANED, Partneriaeth Ogwen a Chwmni Bro Ffestiniog. Mae lot o botensial yn y maes hwnnw hefyd sy'n cael ei ariannu trwy'r cynllun. Mae Cwmpas yn gweithio gyda ni ynghylch hynny ar hyn o bryd. 

Rwy'n cytuno'n llwyr gyda beth mae'r Aelod wedi dweud; wrth gwrs bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Un o'r elfennau cyffrous, rwy'n credu, yng ngwaith y comisiwn newydd fydd edrych ar safle'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, a'n helpu ni i ddeall impact economaidd a chymdeithasol ar yr iaith. Bydd hynny yn ein helpu ni i lunio polisïau fydd yn gymwys ar gyfer bob rhan o Gymru, maes o law. Bydd hyn yn digwydd mewn cyfnodau yng ngwaith y comisiwn. Un o'r elfennau sydd o dan ystyriaeth ar hyn o bryd yw'r cysyniad o ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, lle efallai bod posibilrwydd i bolisi addysg, polisi cynllunio, polisïau mewn meysydd eraill gael gogwydd sydd yn berthnasol i amgylchiadau'r Gymraeg yn y gymuned honno. Bydd gwaith y comisiwn yn bwysig iawn yn creu sail o dystiolaeth ar gyfer hynny. Bydd hynny'n gweithio mewn ffyrdd gwahanol yng nghadarnleoedd y Gymraeg, ar yr un llaw, o'u cymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru ar y llaw arall. Felly, mae hwn yn rhan o waith y comisiwn yn y tymor canol hefyd. 

Rŷm ni'n disgwyl i weld beth fydd canlyniadau'r cyfrifiad, fel gwnaeth yr Aelod ddweud. Dwi ddim yn gwybod beth fyddan nhw ar hyn o bryd. Beth rŷm ni wedi ceisio ei wneud yn hyn a gyda'r camau eraill rydym ni wedi eu cymryd o ran yr ymateb i'r her ail gartrefi—ac hefyd, gyda llaw, yng nghyd-destun polisi addysg yn y Gymraeg—yw ein bod ni mor uchelgeisiol ag y gallwn ni fod. Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd y canlyniadau pan ddown nhw atom ni cyn diwedd y flwyddyn, gobeithio, ond beth bynnag fyddan nhw, mae gennym ni fwy o waith i'w wneud. Felly, dyna'r bwriad yn hyn—ein bod ni'n bod mor uchelgeisiol ag y gallwn ni. Mae'r camau rydym ni wedi'u cymryd fan hyn, yn y maes cynllunio, yn y maes trethi, ac ati, wedi bod yn gamau breision, fel roedd yr Aelod yn cydnabod yn ei gyfraniad. Ond, byddwn ni yn edrych eto ar y taflwybr pan gawn ni'r canlyniadau yn y cyfrifiad, i weld os yw'n gymwys ar gyfer y pum mlynedd a'r 10 mlynedd nesaf. Felly, mae cyfle inni ailedrych ar y taflwybr i 2050 yn y cyd-destun hwnnw.

O ran y cynllun cyfle teg, mae'r cwestiwn o beth sydd wedi cael ei ddatganoli a beth sydd wedi cael ei gadw yn ôl, wrth gwrs, yn berthnasol o ran ein gallu ni fel Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn. Ond, rŷn ni yn edrych ar un elfen gyfreithiol, hynny yw beth mwy y gall gwerthwyr ei wneud o ran cyfamodau ar eu heiddo, i weld os oes gyda ni botensial yn y maes hwnnw. Felly, mae'r gwaith yna'n mynd i fod yn digwydd cyn bo hir, ac mae elfen gyfreithiol i hynny a fydd efallai'n cynnig rhyw fath o gyfle.

Ar yr un testun, gwnaeth e ofyn ynglŷn â sail ddeddfwriaethol i'r gwaith ar enwau lleoedd. Dwi ddim yn diystyru'r posibilrwydd o wneud rhywbeth deddfwriaethol, ond mae agenda deddfwriaethol y Senedd hon yn un lawn iawn. Dŷn ni ddim eto mewn man i allu gwybod yn union beth fydd angen i'r Ddeddf honno i wneud. Mae'r sefyllfa'n wahanol o ran enwau lleoedd, enwau tai, enwau busnesau, ac mae hynny'n faes eithaf cymhleth o ran pwerau ac o ran hefyd beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Ond, y pwrpas wrth edrych ar y sail dystiolaeth, o gomisiynu'r ymchwil yna, yw ein bod ni'n gallu gweld yn glir beth sydd angen deddfwriaeth i ni allu symud y maen i'r wal, a beth y gallwn ni wneud heb ddeddfwriaeth. Dŷn ni ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiynau hynny eto.