Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 11 Hydref 2022.
A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei sylwadau, ac yn arbennig y gydnabyddiaeth o'r gwaith cadarnhaol sydd wedi'i wneud drwy'r strategaeth? Rwy'n cytuno'n llwyr bod yn rhaid i ni gael hyn yn iawn, ac, fel rydych chi wedi'i gydnabod, rydym wedi cynyddu buddsoddiad yn aruthrol. Gwnaethoch chi gyfeirio at y problemau parhaus gydag iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod bod pandemig COVID wedi cael effaith enfawr ar iechyd meddwl pawb, ac yn arbennig i blant a phobl ifanc.
Roeddech chi'n sôn am yr angen i flaenoriaethu iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Dyna pam rwyf wedi dod i mewn i'r swydd yma, Rhun; rwyf wedi dod i mewn i'r swydd yma oherwydd fy mod i'n poeni mor angerddol am hynny, ar ôl arwain y gwaith yn y pwyllgor, a fy ymroddiad yw cyflawni ar yr agenda yna. Ac rydyn ni'n gwneud cynnydd. Cyfeirioch chi at atal. Rydyn ni'n gwario arian ar atal drwy'r hyn sy'n strategaeth draws-Lywodraethol sy'n ymdrin â thai, cyflogaeth, cyngor ar ddyledion, cyngor ariannol—yr holl faterion hynny. Felly, rydym yn cydnabod pwysigrwydd atal yn llwyr, ac mae hynny'n cael ei gefnogi gan y cyllid yr ydym yn ei fuddsoddi yn y rhaglenni hynny.
Rydym yn gweld diwygiadau i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Cyfeiriais yn y datganiad at yr un pwynt mynediad. Maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth, oherwydd mae hynny'n golygu nad yw plant yn cael eu hanfon i wahanol rannau'r system, yn ôl ac ymlaen. Gellir eu rhoi mewn cysylltiad â'r bobl gywir; dyma ein dull 'dim drws anghywir' ar waith. Ac fel y dywedais wrth yr Aelod blaenorol, ni fydd angen CAMHS arbenigol ar lawer o'r bobl ifanc hyn. Dydyn nhw ddim yn sâl yn feddyliol; maen nhw'n profi gofid oherwydd yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn eu bywydau, ac mae cymorth mwy priodol ar gael iddyn nhw. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau eu bod yn gallu cael yr help hwnnw, ac rydym yn buddsoddi £12 miliwn yn ychwanegol eleni, rwy'n credu, yn y dull ysgol-gyfan ar gyfer iechyd meddwl. Mae ein fframwaith NYTH â chyllid ychwanegol yn sail iddo, ac mae gennym ni, fel y gwyddoch chi, y cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru i dreialu'r ddarpariaeth noddfa i bobl ifanc, er ein bod yn gobeithio'n fawr na fydd angen i bobl ifanc fod mewn argyfwng; rydyn ni eisiau atal hynny rhag gwaethygu yn gynharach.
Diolch am eich sylwadau am Betsi Cadwaladr. Rwyf wedi amlinellu eisoes y camau sy'n cael eu cymryd yn y Llywodraeth. Fel y dywedais i, rwy'n cyfarfod â Betsi bob chwarter i fynd trwy'r fframwaith ymyrraeth wedi'i thargedu'n fanwl. Mae hynny'n ychwanegol i'r holl gyfarfodydd eraill sy'n cael eu cynnal i fonitro ansawdd a'r perfformiad yn Betsi, a'r cyfarfodydd ymyrraeth wedi'i thargedu. Mae gennym yr adolygiad yma yn awr sy'n mynd i edrych ar draws yr amrywiaeth o argymhellion sydd wedi eu gwneud o ran Betsi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddwch yn falch o wybod bod y Gweinidog iechyd wedi cymeradwyo'r achos busnes amlinellol ar gyfer y ddarpariaeth iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd, sy'n bwysig iawn. Mae bod â'r arian cyfalaf iawn yn bwysig iawn, ac mae honno'n neges sydd wedi'i rhoi i mi lawer, lawer gwaith pan wyf wedi siarad gyda'r staff yn Betsi. Felly, bydd hynny, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn.
Rwy'n hapus iawn, Rhun, i roi'r sicrwydd i chi ynglŷn â gwasanaethau anhwylder bwyta. Rwyf wedi bod yn glir iawn bod y gwasanaethau hynny yn flaenoriaeth i mi. Rydw i wedi bod yn mynd o gwmpas yn ymweld â'r gwahanol dimau anhwylderau bwyta, a chefais ymweliad positif iawn â'r un yn Betsi, lle maen nhw'n gwneud gwaith gwych iawn i atal problemau rhag gwaethygu i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Rydym wedi rhoi £2.5 miliwn ychwanegol bob blwyddyn, o eleni, yn sail i'n hymrwymiad i wasanaethau anhwylderau bwyta, ac rwyf wedi bod yn glir iawn gyda'r holl fyrddau iechyd y disgwylir iddynt fodloni canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar anhwylderau bwyta, gan gynnwys yr amser aros pedair wythnos. Ond rydyn ni hefyd yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, oherwydd mae hynny'n gwbl allweddol, a'n gwaith ni mewn ysgolion. Felly, rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd yna i chi, a bydda i'n mynd i weld y timau anhwylder bwyta eraill. Mae'n rhaid i mi ddweud, mewn gwirionedd, fod y profiad o ymweld â nhw wedi bod yn hynod gadarnhaol. Maen nhw'n bobl hynod ymroddedig sy'n gwneud gwaith gwych iawn. Rwy'n credu bod angen i ni wneud mwy i siarad am y gwaith da iawn sy'n digwydd yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y GIG.