Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 11 Hydref 2022.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad heddiw yma. Allwn ni ddim, dwi ddim yn meddwl, gor-bwysleisio arwyddocâd y pwynt yma mewn amser o ran y sylw rydyn ni yn ei roi i iechyd meddwl. Mae wedi bod yn beth cadarnhaol i gael y strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' i roi ffocws i ni ar y gwaith sydd angen ei wneud, i ddeall dyfnder y problemau rydyn ni'n eu hwynebu o ran iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru, a rŵan, gan ein bod ni ar y pwynt yma lle mae'r strategaeth honno yn cael ei haileni, mae'n rhaid i ni ei chael hi yn iawn.
Oes, mae yna gamau wedi'u cymryd dros y blynyddoedd diwethaf. Oes, mae yna gynnydd wedi bod mewn buddsoddiad mewn iechyd meddwl, ond mae'r ffaith ein bod ni'n dal yn wynebu problemau mor ddwys yn y maes yma yn dweud wrthym ni fod yna rywbeth o'i le o hyd. Yn yr un ffordd ag yr ydym ni'n sôn am yr angen i fuddsoddi yn yr ataliol yng nghyd-destun yr NHS yn gyfan gwbl, mi hoffwn i wybod gan y Gweinidog pa fwriad sydd ganddi hi i sicrhau bod yna fwy fyth o gyfran o'r gyllideb yn mynd i mewn i daclo a datrys problemau yn gynnar, rhag iddyn nhw ddatblygu i mewn i broblemau sydd wedyn yn mynd yn fwy o fwrn ar yr unigolyn, wrth gwrs, ond hefyd yn drymach o bwysau ar y gwasanaethau acíwt, sydd yn ddrud i'w darparu, ac yn creu mwy o loes i'r bobl sydd angen y gwasanaethau hynny.
Mi fyddwn i yn licio gwybod pa waith mae'r Gweinidog yn bwriadu ei wneud ar y pwynt yma i sicrhau na fyddwn ni mewn blynyddoedd yn dal i wynebu problemau yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl acíwt o'r math rydyn ni wedi eu gweld yn y gogledd dros y blynyddoedd diwethaf—y problemau sy'n parhau yn adran Hergest yn Ysbyty Gwynedd, lle mae'r staff yn dal yn troi atom ni fel cynrychiolwyr lleol ac yn sôn am broblemau o forâl isel a phryder am ddiogelwch cleifion. Dydy hynny ddim yn dderbyniol, felly mi fyddwn i'n hoffi clywed mwy am y math o syniadau sy'n datblygu gan y Dirprwy Weinidog yn hyn o beth.
Ac yn olaf, dwi angen sicrwydd yn fan hyn y bydd mwy yn cael ei wneud i flaenoriaethu'r plant a phobl ifanc. Rydyn ni'n gwybod, er gwaethaf y cynnydd mewn gwariant, er gwaethaf y ffocws ychwanegol sydd wedi bod—ac rydyn ni'n croesawu hynny—ar iechyd meddwl, ein bod ni'n dal yn methu â symud plant a phobl ifanc i mewn i wasanaethau llesiant ac iechyd meddwl yn ddigon buan, a bod hynny'n golygu bod problemau a allai gael eu datrys yn troi yn broblemau mwy dwys. Dwi'n gwybod am bobl sydd wedi rhoi fyny'n llwyr ar wasanaethau yr NHS ac wedi penderfynu nad oes yna unrhyw opsiwn ond mynd yn breifat, a hynny mewn bob mathau o feysydd, yn cynnwys anhwylderau bwyta.
Dwi angen sicrwydd gan y Dirprwy Weinidog bod yna ffocws o'r newydd yn mynd i fod ar hyn, ac ail-lefelu blaenoriaethau ar gyfer pobl ifanc, a hefyd ar gyfer y cyfnod trosi yna rhwng gwasanaethau pobl ifanc a gwasanaethau oedolion. Mi fyddwn i'n ddiolchgar am sylwadau ynglŷn â hynny hefyd. Rydyn ni'n gwybod bod Mind Cymru a'u cynllun nhw, Sort the Switch, yn ymwneud â'r maes yma yn benodol. Felly, unwaith eto, mae hwn yn gyfnod cwbl, cwbl allweddol. Mi gefnogaf i'r Llywodraeth yn gwneud y penderfyniadau cywir rŵan, ond dwi'n edrych ymlaen at weld y strategaeth honno yn un gadarnach na mae hi wedi bod pan fydd hi'n dod o'n blaenau ni cyn bo hir rŵan.