7. & 8. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 11 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:14, 11 Hydref 2022

Diolch, Llywydd, a dwi'n falch i allu cyfrannu yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Buaswn i'n licio diolch i’r Gweinidog am ddod i’r pwyllgor i drafod goblygiadau ariannol y Bil. Dŷn ni wedi gwneud pump o argymhellion, a dŷn ni wedi clywed gan y Gweinidog a diolch iddi am ei sylwadau yn barod ar y rheini, ac rŷn ni'n edrych ymlaen at gael mwy o fanylion ganddi mewn amser.

Ond cyn i fi fynd i fanylder ar hynny, hoffwn i ddechrau drwy gefnogi sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd, a hefyd y sylwadau dŷn ni newydd eu clywed gan Huw Irranca-Davies ynglŷn ag osgoi craffu yng Nghyfnod 1. Rydym yn cefnogi'r safbwynt bod osgoi Cyfnod 1 yn rhwystro'r cyfle i ymgynghori â rhanddeiliaid a'r cyhoedd ar y ddarpariaeth fanwl o fewn y Bil. Mae hefyd yn rhwystro'r cyfle i'r Senedd gynnal gwaith craffu llawn a thrylwyr ar oblygiadau ariannol a pholisi'r Bil.