Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch, Llywydd. Weinidog, mae effaith yr argyfwng costau byw cyn waethed, os nad yn waeth, na'r argyfwng COVID i rai myfyrwyr. Dyna oedd barn is-ganghellor Prifysgol De Cymru, Ben Calvert, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf. Rhybuddiodd ef ei fod yn poeni'n benodol am fyfyrwyr hŷn, a oedd mewn perygl o adael cyrsiau allweddol, fel graddau gofal iechyd a nyrsio, am nad oedden nhw'n medru fforddio costau byw. Mae'r myfyrwyr ar gyrsiau fel hyn hefyd, wrth gwrs, yn methu â gweithio i gael incwm ychwanegol yn sgil y ffaith eu bod yn gorfod bod ar leoliadau gwaith fel rhan o'u cwrs. Mae arolwg Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru yn cefnogi y datganiad pryderus yma, yn datgelu bod 28 y cant o fyfyrwyr yng Nghymru â llai na £50 y mis i fyw arno; 92 y cant yn pryderu am eu gallu i ymdopi yn ariannol; 11 y cant yn defnyddio banciau bwyd; a theimla 89 y cant nad yw Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, nac ychwaith Llywodraeth Cymru, yn gwneud digon i'w cefnogi yn ystod yr argyfwng yma. Dwi'n nodi eich ateb chi i Cefin Campbell i'r cwestiwn blaenorol, a dwi'n edrych ymlaen at eich datganiad ynglŷn â dyfodol y pecyn cynhaliaeth, ond a oes yna rywbeth gall y Llywodraeth ei wneud i ymrwymo i ddarparu grantiau ychwanegol, naill ai yn uniongyrchol neu drwy gronfeydd caledi prifysgolion, i'w helpu drwy y cyfnod anodd hwn yn benodol, i wneud yn iawn am y ffaith bod y pecyn cyllid myfyrwyr bellach yn annigonol, yn sgil chwyddiant, fod rhai myfyrwyr wedi'u cau mas o'r gefnogaeth costau byw—