Mercher, 12 Hydref 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sarah Murphy.
1. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod digon o leoedd ysgolion ar gael i ddisgyblion ar draws Pen-y-bont ar Ogwr? OQ58521
2. Pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn ei darparu i fyfyrwyr prifysgol ar draws canolbarth a gorllewin Cymru wrth i'r argyfwng costau byw ddwysáu? OQ58543
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
3. Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y system addysg yn rhoi sgiliau bywyd hanfodol i bobl ifanc? OQ58514
4. Beth yw disgwyliad Llywodraeth Cymru o ran categori iaith y ddwy ysgol arloesol newydd dan ei her ysgolion cynaliadwy? OQ58540
5. Pa gymorth y mae’r Llywodraeth yn ei roi i ysgolion Arfon a'r awdurdod lleol wrth iddynt gyflwyno’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd? OQ58513
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith gwella yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, Caerdydd? OQ58538
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o ganlyniadau TGAU a Safon Uwch haf 2022? OQ58512
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fentrau penodol Llywodraeth Cymru i leihau'r bwlch tlodi o ran cyrhaeddiad myfyrwyr yn dilyn y pandemig? OQ58537
9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau uniondeb canlyniadau TGAU a Safon Uwch? OQ58539
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jane Dodds.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau deintyddol cymunedol? OQ58536
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gofal brys acíwt mewn ysbytai ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ58529
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf i ofyn cwestiwn i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. James Evans.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o adroddiad 'Niferoedd Nyrsio 2022' y Coleg Nyrsio Brenhinol mewn perthynas â gogledd Cymru? OQ58531
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfathrebu gyda chleifion o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ58519
5. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau fod capasiti'r GIG yng ngogledd Cymru yn ddigon i ateb y galw? OQ58528
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chanser y coluddyn? OQ58530
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo e-sigaréts i ysmygwyr? OQ58526
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r rhaglen frechu COVID-19? OQ58516
9. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o lefelau staffio'r GIG yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ58544
Does yna ddim cwestiynau o dan eitem 3.
Eitem 4, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r unig ddatganiad y prynhawn yma gan Heledd Fychan.
Eitem 5 yw'r eitem nesaf, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Dwi'n galw ar...
Eitem 6 y prynhawn yma yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ‘Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai’. Galwaf ar...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth i'r bleidlais. Felly, rŷn ni'n agor y bleidlais ar yr eitem gyntaf....
Ond mae yna ddadl fer nawr i'w chlywed, a dwi'n galw ar Luke Fletcher i gyflwyno'r ddadl fer yn ei enw e. Luke.
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar nifer y rhai sy'n ymadael â'r ysgol sy'n parhau â'u haddysg drwy fynd i mewn i addysg bellach ac addysg uwch?
Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith ei pholisïau ar wasanaethau gofal asthma?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia