Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 12 Hydref 2022.
Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai’r Aelod ysgrifennu ataf ynglŷn â'r achos penodol hwnnw, a byddaf yn ymchwilio iddo. Mae gennym fecanwaith, system, yng Nghymru sy’n galluogi darparwyr cyrsiau mewn unrhyw ran o’r DU i gael eu hachredu, fel y mae’r Aelod yn amlwg yn gwybod, ac nid yw’n seiliedig ar ddaearyddiaeth; mae’n seiliedig ar feini prawf ac achredu gwrthrychol, sydd wedyn yn galluogi myfyriwr o Gymru i allu cael mynediad at y darparwr hwnnw mewn unrhyw ran o’r DU, a chael y cymorth sydd ar gael drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Felly, mae clywed yr hyn y mae'r Aelod wedi'i amlinellu heddiw yn peri gofid i mi, a byddwn yn ddiolchgar pe gall ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny.