Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch, Lywydd. A wnewch chi gymryd camau ar unwaith i sicrhau bod adnoddau addysg awdurdodau lleol, ysgolion a gwasanaethau ieuenctid yn addas i'r oedran, a chael gwared ar y rhai nad ydynt yn addas ar unwaith, a hefyd y rheini sy'n cyfeirio pobl at Mermaids? A wnewch chi ymrwymo i adolygu deunyddiau y gwelwyd eu bod yn ddiangen ar gyfer y grŵp oedran hwn, a sicrhau bod y deunyddiau’n cael eu harwain gan wyddoniaeth, yn ogystal â chynnwys ideoleg rhywedd, addasrwydd i oedran—