Bwlch Tlodi

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:10, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Roedd fy natganiad i'r Siambr ym mis Mawrth a'r araith a roddais i Sefydliad Bevan ym mis Mehefin yn nodi fy mwriad i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac rwyf wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i wireddu'r amcan hwn, o gyflwyno hyrwyddwyr cyrhaeddiad i archwilio ffyrdd o gymell athrawon i weithio yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.