Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:05, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae iechyd, diogelwch a llesiant dysgwyr a staff a chymuned yr ysgol gyfan yn amlwg o'r pwys mwyaf. Mae cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am iechyd a diogelwch mewn ysgolion ac mae dyletswydd arnynt i sicrhau diogelwch dysgwyr a staff bob amser. Mae'r Aelod wedi ysgrifennu ataf ar ddau achlysur mewn perthynas â hyn, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru geisio diweddariad ar gynnydd y prosiect mewn ymateb i hynny. Bu swyddogion yr awdurdod yn gweithio'n agos gyda'r ysgol mewn perthynas â'r gwaith. Yn dilyn ymgynghoriad ac arolygon dros yr haf, mae gwaith i'r ardal dysgu cynnar ac adeilad allanol, yn arbennig, wedi cael eu nodi fel blaenoriaeth, ac mae'r gwaith wedi dechrau dros wyliau'r haf. Bydd gwaith i'r prif adeilad a gwaith atgyweirio ychwanegol yn dechrau yn ystod tymor yr hydref. Rwy'n gobeithio bod y diweddariad hwnnw o gymorth, ond byddwn yn awgrymu ei fod yn cadw mewn cysylltiad â Chyngor Caerdydd mewn perthynas â'r sefyllfa benodol hon.