Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Bûm yn ymweld â phob ysgol uwchradd yn Nwyrain Abertawe ar ddiwrnod y canlyniadau TGAU, ac fe ymwelais â'r rhai a gafodd ganlyniadau Safon Uwch ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch. Roeddent yn hapus gyda'r canlyniadau, ond fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, roedd problemau gyda rhai o'r cwestiynau a osodwyd. Mae'n gwybod hyn oherwydd rwyf wedi codi'r mater gydag ef ar sawl achlysur. Pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog gyda Cymwysterau Cymru a CBAC i sicrhau na fydd problemau'n codi gyda chwestiynau arholiad eto eleni?