Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 12 Hydref 2022.
Rydym yn gweithio'n barhaus gyda Cymwysterau Cymru a CBAC i sicrhau uniondeb ein holl ganlyniadau. Mae hyn yn cynnwys asesiadau safonedig diogel, prosesau manwl o ansawdd, a phrosesau marcio dienw sy'n cael eu monitro ac sy'n cael eu cymhwyso'n gyson ledled Cymru. Yn ogystal, caiff tryloywder ei gynnal drwy gydol y broses drwy ymgysylltu rheolaidd â rhanddeiliaid.