Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 12 Hydref 2022.
Ym mis Awst 2022, cyhoeddodd y prif swyddog deintyddol ganllawiau wedi’u diweddaru ar rôl y gwasanaeth deintyddol cymunedol. Roedd hyn yn cynnwys ehangu swyddi swyddogion deintyddol cyflogedig i gefnogi cymunedau sydd â mynediad cyfyngedig, neu ddim mynediad o gwbl, at wasanaethau deintyddol cyffredinol sy’n cael eu darparu fel arfer drwy’r model contractwyr annibynnol.