Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 2:17, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Wrth ymweld â'r gwasanaethau deintyddol cymunedol yn Llanelli, dysgais lawer am yr hyn y maent yn ei wneud i ddiwallu anghenion pobl agored i niwed: pobl sydd ag anableddau, trafferthion iechyd meddwl, a ffoaduriaid hefyd. Ond roedd pryder ynghylch erydu gwasanaethau deintyddol cymunedol. Roedd y pwysau ar y gwasanaeth deintyddol cyffredinol yn effeithio arnynt yn fawr, ac roedd rhai o'u slotiau brys yn cael eu llenwi gan yr achosion deintyddiaeth gyffredinol brys hynny. Mae hyn yn aml yn golygu nad oes lle ar gael ar gyfer cleifion agored i niwed sydd angen gofal brys. Felly, tybed a wnewch chi ymrwymo i glustnodi'r cyllid a diogelu'r ddarpariaeth hon. Tybed a wnewch chi ymuno â mi ar ymweliad, â Llanelli yn ein rhanbarth efallai, i glywed gan y staff gwych sy'n darparu gwasanaeth. Diolch yn fawr iawn.