Cyfathrebu gyda Chleifion

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:40, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, yn gyntaf oll, dylai clinigwyr fod yn ysgrifennu nodiadau; dylent fod yn ysgrifennu nodiadau ar adeg y driniaeth. Felly, nid oes unrhyw esgus dros hynny; mae hynny'n ofyniad. Ond o ran nodiadau'n mynd ar goll, credaf fod digideiddio'n rhan o’r ateb i hyn, a dyna pam fy mod wedi treulio cryn dipyn o fy amser yn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod gennym GIG llawer mwy modern, ein bod yn buddsoddi yn y GIG. Ac rydym yn buddsoddi mwy y pen nag y mae Lloegr. Felly, rydym yn buddsoddi oddeutu £18 y pen, o gymharu ag £11.50. A bydd y rhaglen drawsnewid ddigidol honno’n sicrhau ein bod mewn sefyllfa lle gallwn wybod beth yn union sy’n digwydd, y bydd y systemau’n siarad â’i gilydd, ac yna, ni fydd gennym sefyllfa lle mae nodiadau’n mynd ar goll.