Brechu COVID-19

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:56, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Wel, rydym yn sôn am geisio darparu'r pigiad atgyfnerthu i 1.6 miliwn o bobl gymwys yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei gyflawni drwy 400 o safleoedd brechu, felly credaf fod y ddarpariaeth honno'n ddigonol i ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfle hwnnw. Fel y dywedaf, ein targed yw cyrraedd 75 y cant o'r garfan honno, a hyd yn hyn, rydym ar y trywydd iawn i gyflawni'r targed hwnnw. Felly, rydym yn gwneud cynnydd. Rwyf ychydig yn bryderus nad ydym yn cael yr ymateb gan weithwyr iechyd a gofal yr oeddwn wedi gobeithio'i gael, felly hoffwn annog pobl i geisio annog y gweithwyr iechyd a gofal hynny'n benodol i fanteisio ar y cyfle, yn ogystal, wrth gwrs, â phobl agored i niwed, ac i'w gael os caiff ei gynnig. Yn Ne Clwyd, er enghraifft, gwn fod 34 y cant o’r bobl sy’n gymwys eisoes wedi cael eu brechiadau.