Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch yn fawr. Mae gweithlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda nawr wedi cyrraedd lefel na welwyd erioed o’r blaen. Ond, rŷn ni’n cydnabod yr heriau o ran y gweithlu yn y canolbarth a’r gorllewin ar yr un pryd â’r pwysau sydd ar wasanaethau yn sgil galw sylweddol.