Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 12 Hydref 2022.
Weinidog, gŵyr pob un ohonom ei bod yn hanfodol cael diagnosis cynnar o ganser y coluddyn. Mae'n ffaith y bydd bron pawb sy'n cael diagnosis ar y cam cynharaf yn goroesi. Serch hynny, ers blynyddoedd, rydym wedi methu canfod y salwch hwn yn ddigon cyflym yng Nghymru. Roeddem yn bumed ar hugain allan o 29 o wledydd yn Ewrop ar gyfer y gyfradd oroesi pum mlynedd. Gyda hanner y cleifion canser y coluddyn yn cael diagnosis yn hwyrach, bedair blynedd yn ôl, argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig y dylai pobl rhwng 50 a 74 oed gael prawf. Yng Nghymru, nid yw pobl rhwng 50 a 55 oed yn cael eu profi eto, a bydd rhaid inni aros am flynyddoedd cyn i’r grŵp oedran hwn gael ei drin yr un fath ag mewn mannau eraill yn y DU. Mae’r perfformiad gwarthus hwn gan Weinidogion Cymru wedi peryglu bywydau llawer o bobl. Felly, pa gamau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau bod pobl rhwng 50 a 55 oed yn cael eu cefnogi yn awr, cyn i'r oedran sgrinio gael ei ostwng ymhen dwy flynedd? Diolch.