Lefelau Staffio'r GIG

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:01, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ystod dadl Pwyllgor Deisebau yn ddiweddar, fe ddywedoch chi,

'mae'n anghywir awgrymu y byddai ymestyn adran 25B i gynnwys pob un o'r meysydd hynny'n arwain at roi'r "tîm llawn o nyrsys" i Gymru, fel y mae'r ddeiseb yn ei roi, a hynny'n syml am nad yw'r nyrsys hynny'n bodoli ar hyn o bryd.'

Yr hyn rwy'n ceisio ei gywiro, fy hun, a rhoi cyfle i chi ehangu ac egluro, yw bod Llywodraeth Cymru—chi eich hun—yn honni bod yna strategaethau recriwtio amrywiol, gan gynnwys recriwtio rhyngwladol hefyd, ac rydych chi'n siarad am y buddsoddiadau uchaf erioed mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant. Felly, os yw hynny'n wir, nid yw'r ddau beth yn gyson â'i gilydd. Tybed a wnewch chi roi ychydig o gyd-destun pellach, efallai, i'ch sylwadau yn ystod y ddadl Pwyllgor Deisebau.