Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 12 Hydref 2022.
Er ein bod yn cydnabod bod e-sigaréts yn cael eu defnyddio gan rai pobl sydd am roi’r gorau i ysmygu, mae’r dystiolaeth ynghylch eu heffaith hirdymor yn dal i ddatblygu. Rydym yn bwriadu edrych yn fanwl ar ein polisi ar e-sigaréts yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu, fel rhan o’n cynllun cyflawni newydd ar reoli tybaco.