Canser y Coluddyn

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:48, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o weld yr oedran sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn gostwng yn ddiweddar i 55, gan y gwyddom fod sgrinio pobl yn gynharach yn golygu y gellir canfod canser yn gynharach. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig y gellir cael mynediad at driniaeth cyn gynted â phosibl. Felly, roedd yn flin gennyf nodi, ym mis Gorffennaf, mai 36 y cant yn unig o gleifion â chanserau yn y bibell gastroberfeddol isaf yng Nghwm Taf Morgannwg a ddechreuodd eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r pwynt pan amheuid bod canser arnynt. Fel y gwyddoch, mae hynny’n sylweddol is na'r targed perfformiad ar gyfer llwybr lle’r amheuir canser. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau mynediad cyflym at driniaeth?