Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 12 Hydref 2022.
Mae'r pwyllgor wedi gwneud llawer iawn o waith, ac rydym yn ddiolchgar iawn amdano, gwaith sy'n dadlau'r achos dros ymateb mwy cymesur i fater gwirioneddol ddifrifol. Nid wyf wedi siarad ag unrhyw ffermwr nad yw'n cydnabod bod angen i ansawdd dŵr fod yn well. Mae pawb eisiau cydweithio ar hyn, dull tîm Cymru o weithredu.
Rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i ofyn am asesiad o'r effaith economaidd. Fe wneuthum hynny ym mis Awst, gan gydnabod bod costau uwch yn rhan o bryder ffermwyr ynglŷn â'r dyfodol. Rwy'n pryderu y bydd canlyniadau anfwriadol y rheoliadau hyn i'w teimlo ymhell y tu hwnt i giât y fferm unigol, oherwydd ni roddwyd digon o sylw i'r effaith ehangach ar ein cymunedau gwledig, na goblygiadau i gadwyni cyflenwi cyn ac ar ôl giât y fferm. Cefais fy atgoffa heddiw ddiwethaf y byddai'r terfyn rhanddirymiad 170 kg arfaethedig yn arwain at gyfradd ddadstocio gwartheg llaeth o 17 y cant—colled i ni o oddeutu 330 miliwn litr o gynhyrchiant llaeth. Mae gwir angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y cyfnod adolygu pedair blynedd, sydd wedi'i gynnwys yn y rheoliadau, yn edrych nid yn unig ar effaith y rheoliadau ar leihau llygredd amaethyddol, ond ar effaith y rheoliadau ar y diwydiant ei hun.
Fy nghwestiwn cyntaf, os caf, Weinidog, yw deall ychydig mwy am y cynllun trwyddedu arfaethedig a sut y mae hynny'n cyd-fynd ag argymhelliad 1 yn yr adroddiad. Mae gennyf gwestiynau, er enghraifft, ynglŷn â faint o fusnesau fferm a all ddisgwyl elwa. A fydd unrhyw wersi i'w dysgu i lywio newidiadau posibl i'r rheoliadau? Beth yw paramedrau'r ymgynghoriad i sicrhau ei fod yn deg, yn gytbwys ac yn cael ei arwain gan dystiolaeth, a beth yw'r meini prawf llwyddiant ar gyfer yr ymgynghoriad? Mae ffermwyr wedi dweud dro ar ôl tro mai dim ond ateb dros dro yw gohirio'n unig, felly mae angen eglurder i ffermwyr ynglŷn â beth y mae'r cynllun trwyddedu yn ei olygu'n hirdymor mewn gwirionedd.
Hoffwn hefyd ganolbwyntio ar argymhelliad 2, a chostau cyflwyno'r rheoliadau hyn. Mae'r pecyn cyllido hyd yma yn llawer is na'r hyn yw ffigyrau'r Llywodraeth ei hun ar gyfer y gost ymlaen llaw o tua £360 miliwn. Mae'r FUW wedi amcangyfrif y gallai'r gost fod tua £450 miliwn mewn gwirionedd, sy'n wahaniaeth enfawr. Ni ellir rhoi'r £20 miliwn ychwanegol yr wythnos diwethaf yn ei gyd-destun heb gael manylion llawn am gymorth ariannol hyd yma, ac yn wyneb pwysau costau sy'n cynyddu'n barhaus i'n ffermwyr, mae'n swnio fel diferyn bach yn y môr.
Fel y nododd Paul Davies, mae'r dechnoleg newydd yn ddiddorol iawn, ac rwy'n pryderu y gallai'r dechnoleg newydd sy'n datblygu negyddu'r angen i adeiladu storfeydd slyri newydd. Bydd rhai ffermwyr wedi gwario symiau enfawr o arian a chanfod wedyn nad oedd angen y gwariant, gan roi pwysau costau ychwanegol enfawr ar ffermydd. Felly, mae angen cysoni rhwng y cynllun trwyddedu arfaethedig, y cyfnod adolygu pedair blynedd a chyflwyno mesurau amgen. I fod yn bryfoclyd, fy nghwestiwn fyddai: pam na chawn ni aros nes bod y dechnoleg newydd yn dod yn weithredol a gweld pa effaith a gaiff?
Mae gwir angen eglurder ynghylch pa adnoddau ychwanegol sydd eu hangen, gan CNC er enghraifft, fel y nododd y Cadeirydd a chan eraill hefyd. Heb y rôl reoleiddio effeithiol honno, cosbi ffermwyr yn unig y mae'r rheoliadau hyn. Hefyd, rwy'n nodi'r pwynt gan fy nghyd-Aelod Mabon ap Gwynfor ynghylch capasiti adrannau cynllunio awdurdodau lleol. Maent dan bwysau aruthrol. Yng Ngheredigion, rwy'n deall mai un swyddog cynllunio sy'n ymdrin â'r holl ffermwyr sy'n gwneud ceisiadau ar gyfer storfeydd slyri ar hyn o bryd.
Mae angen dull tîm Cymru o weithredu. Yng ngoleuni'r cyhoeddiad a wnaed gan y Llywodraeth a Phlaid Cymru yr wythnos diwethaf, byddwn yn croesawu eglurder ynglŷn ag a fydd y dyddiad cau ar gyfer cynigion amgen yn cael ei ymestyn, ac a fydd Llywodraeth Cymru'n ailedrych yn awr ar y cynigion amgen a gyflwynwyd gan y sector. Diolch yn fawr iawn.