Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 12 Hydref 2022.
Mewn munud.
Nid yw'n dderbyniol, ac mae'n gosod cynsail gwael. Rydym wedi clywed gan Huw Irranca yn gwbl glir fod y rhan fwyaf o ffermwyr yn dymuno cydymffurfio a gweld manteision cyflwr amgylcheddol ffafriol, nid yn unig ar eu ffermydd ond mewn afonydd hefyd. Nid yw'n fwriad, a gŵyr pob un ohonom nad yw'n fwriad, gan y rhan fwyaf o ffermwyr i lygru. Yn anffodus, bu achosion lle cafwyd llygredd bwriadol, ac mae digon o dystiolaeth i'r perwyl hwnnw.