7. Dadl Plaid Cymru: Y sector rhentu preifat

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:22, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Yn hollol, ac mae'r elfen iechyd yn hyn wedi'i nodi heddiw gan Goleg Brenhinol y Meddygon, sydd wedi dweud, wrth gwrs, fod tlodi'n achosi salwch ac iechyd gwael. Mae'r argyfwng costau byw yn debygol o gael effaith sylweddol ar y GIG, yn union fel y gwnaeth argyfwng COVID. Mae cymdeithasau tenantiaid fel ACORN, Living Rent, a Generation Rent yn cytuno bod y mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth yr Alban yn ffordd dda o helpu i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl yn sgil yr argyfwng. Fel y clywsom, ymateb maer Llundain Sadiq Khan i'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban yw mai rhewi rhenti yw'r union beth sydd ei angen ar Lundeinwyr. Mae Plaid Cymru'n credu mai dyna sydd ei angen ar bobl Cymru.

Os arhoswn yn rhy hir, os na weithredwn yn awr, fe fydd hi'n rhy hwyr i atal y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas rhag effaith andwyol rhent anfforddiadwy ac arswyd digartrefedd. Nid oes gan Lywodraeth Cymru rym—