Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 12 Hydref 2022.
Iawn. Nid oes gan Lywodraeth Cymru rym i atal biliau rhag codi i'r entrychion. Ni all sicrhau bod Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Ond fe all weithredu i roi sicrwydd i bobl y gallant aros yn eu cartrefi, nad yw cyllidebau sydd eisoes wedi'u hymestyn i'r eithaf yn chwalu oherwydd codiadau rhent, tra bod gwyntoedd oer y storm economaidd ofnadwy hon yn oeri pobl Cymru hyd at fêr eu hesgyrn.