Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 12 Hydref 2022.
Mae ein hymrwymiad wedi ei ddangos yn glir yn y buddsoddiadau a wnawn: buddsoddiad o dros £197 miliwn mewn cymorth tai a gwasanaethau atal digartrefedd, a £310 miliwn eleni yn unig mewn tai cymdeithasol, sef y lefel uchaf erioed. Fodd bynnag, nid ydym yn bychanu maint yr her sy'n wynebu aelwydydd ledled Cymru, sydd, yn ddealladwy, yn poeni'n fawr am effaith yr argyfwng costau byw arnynt hwy a'u teuluoedd. Dyna pam ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth i gynnig a darparu cymorth ar unwaith i'r rhai sydd fwyaf mewn angen.
Fel y nododd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol mewn dadl ddiweddar ar yr argyfwng costau byw, yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, byddwn yn gwario £1.6 biliwn ar gymorth costau byw wedi'i dargedu a rhaglenni cyffredinol i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl ac i helpu i leddfu'r argyfwng hwn. Ychydig wythnosau yn ôl yn unig, cyhoeddodd y Prif Weinidog dri mesur ychwanegol y byddwn yn eu gweithredu, ar drydedd ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', ar ganolfannau cynnes ac ar fanciau bwyd.
Gan droi'n benodol at y sector rhentu preifat, ym mis Ionawr eleni, lansiais gynllun lesio Cymru, yn ymrwymo £30 miliwn dros bum mlynedd i wella mynediad at dai fforddiadwy mwy hirdymor yn y sector rhentu preifat. Bydd yn sicrhau diogelwch i denantiaid ac yn rhoi hyder i landlordiaid. Lluniwyd y cynllun i gefnogi'r bobl a'r aelwydydd mwyaf difreintiedig sy'n ddigartref neu sy'n wynebu risg o ddigartrefedd. Bydd tenantiaid sy'n rhan o'r cynllun yn elwa o sicrwydd deiliadaeth fwy hirdymor o rhwng pump ac 20 mlynedd a bydd rhenti wedi'u cyfyngu i gyfraddau lwfans tai lleol. Bydd yna arian ychwanegol i sicrhau eu bod yn cael y lefel o gymorth y byddent yn ei ddisgwyl mewn tai cymdeithasol. Rydym hefyd wedi darparu £300,000 o gyllid ar gyfer Cyngor ar Bopeth Cymru i sefydlu llinell gymorth dyledion y sector rhentu preifat. Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, mae dros 900 o denantiaid wedi cael eu cefnogi.
Ond o edrych ar y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn yr Alban, mae'n amlwg nad yw mesurau rhewi rhenti na moratoriwm ar droi allan yn cynnig ateb i bob problem na sicrwydd llwyr i denantiaid. Rwy'n siŵr fod yr Aelodau wedi gweld papur Crisis ar yr union bwnc hwn. Mae Crisis yn nodi bod polisi rhewi rhenti cyffredinol o fudd i bob tenant yn y sector rhentu, ond nid oes gan bob tenant yn y sector rhentu broblemau gyda fforddiadwyedd. Mae'r sector rhentu preifat, yn arbennig—a geiriau Crisis yw'r rhain, nid fy ngeiriau i—yn sector amrywiol iawn o ran yr aelwydydd y mae'n eu gwasanaethu, o fyfyrwyr a gweithwyr ifanc proffesiynol, i deuluoedd â phlant ac aelwydydd hŷn. Ceir grŵp o aelwydydd incwm canolig nad yw fforddiadwyedd yn gymaint o broblem iddynt. Ceir grŵp gweddol fawr sy'n ei chael hi'n anodd iawn talu eu costau tai, a gallai'r rheini elwa o'r cynigion hyn. Ceir grŵp hefyd sydd eisoes yn gorfod talu'r gwahaniaeth rhwng eu rhent a'u budd-dal tai. Nawr, byddai rhewi rhenti a gwahardd troi allan yn oedi unrhyw gamau i droi pobl yn y grŵp hwn allan, ond ni fyddai'n cael gwared ar y risg o gronni ôl-ddyledion rhent. Ânt rhagddynt i ddweud eu bod yn cefnogi'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, sef targedu'r cymorth ar y bobl fwyaf agored i niwed yn y sector hwn a gwneud yn siŵr eu bod yn aros yn eu cartrefi. Nid ydym eisiau gyrru landlordiaid allan o'r sector; rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pobl yn manteisio ar y sector rhentu preifat ac yn aros yn eu cartrefi.
Felly, er bod moratoriwm dros dro—fel y mae llawer o'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon wedi nodi—yn gallu ymddangos ar yr wyneb fel ffordd o gadw pobl yn eu cartrefi, mae wedi bod yn gwbl amlwg nad yw'n gwneud hynny am amser hir iawn. Nid yw ond yn gohirio'r adeg pan fydd pobl yn wynebu troi allan gorfodol yn y gwanwyn, am ôl-ddyledion rhent y maent yn ei chael hi'n anodd iawn eu talu'n ôl. Felly, mae sicrhau cymorth wedi'i dargedu ar eu cyfer ar y pryd, yn eu cartrefi, yn ffordd lawer gwell o wneud hyn. Ac nid yw deddfu i gyflwyno mesurau rhewi rhenti yn effeithio ar denantiaethau newydd. Mae tystiolaeth academaidd ddiweddar wedi dangos bod mesurau rheoli rhenti mewn llawer o wledydd—er enghraifft, Iwerddon, fel y mae pobl wedi nodi—wedi arwain at landlordiaid yn gadael y farchnad mewn niferoedd gwirioneddol fawr. Mae hyn yn lleihau argaeledd tai ymhellach ac mae perygl y gallai gynyddu achosion o ddigartrefedd, yn enwedig ymhlith y tenantiaid mwyaf agored i niwed nad ydynt yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth rent amgen.
Hefyd, profwyd bod mesurau rheoli rhenti'n gweithredu fel targed yn hytrach na chap mewn rhai awdurdodaethau. Felly, y dull a ffefrir gennym ni yw sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cefnogi i aros yn eu cartrefi eu hunain, a darparu cymorth ariannol, sydd eisoes ar waith gennym ac ar gael yn awr. Nid yw hyn yn unrhyw fath o opsiwn 'gwneud dim'. Ac wrth gwrs, bydd y Ddeddf rhentu cartrefi yn dod i rym ym mis Rhagfyr, sy'n newid go iawn yn yr amddiffyniad a roddir i denantiaid yn y sector rhentu preifat.
Ac wrth gwrs mae angen inni ddatblygu ateb cadarn a hirdymor a fydd yn sicrhau sector rhentu cynaliadwy yng Nghymru. I wneud hyn, mae angen inni ddeall yn llawn, drwy dystiolaeth, beth yw'r problemau mewn gwahanol rannau o'r wlad a pha oblygiadau a allai fod i wahanol opsiynau rheoli rhenti os cânt eu cyflwyno. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo, o dan y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, i ddatblygu Papur Gwyn yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Rydym wedi comisiynu ymchwil, sydd bellach ar y gweill, i ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth i gefnogi'r math cywir o fesurau rheoli rhenti ar gyfer y math cywir o eiddo yn y lle cywir. Fodd bynnag, o ystyried y prisiau cynyddol, rwy'n awyddus i gasglu cymaint o safbwyntiau â phosibl ar ymyriadau posibl i lywio datblygiad y Papur Gwyn, felly heddiw, rwy'n cadarnhau y byddwn yn cyhoeddi ac yn gweithio ar Bapur Gwyrdd yn gyntaf er mwyn darparu gwybodaeth i'r Papur Gwyn.
Ddirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd gennym i helpu pobl mewn modd cynaliadwy i aros yn eu cartrefi ac osgoi digartrefedd. Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar unwaith a gwrthdroi eu penderfyniad gwarthus i rewi'r lwfans tai lleol. Mae amryw o Aelodau Ceidwadol wedi cyfrannu at y ddadl hon, ond rwy'n galw arnynt unwaith yn rhagor i wneud eu galwad ar Lywodraeth y DU i adfer y lwfans tai lleol yn gyhoeddus iawn. Mae'n arwain at dlodi yn y sector ac nid yw'n helpu'r landlordiaid. Byddai'n fwy o help i landlordiaid pe bai'r lwfans tai lleol ar y lefel briodol hefyd. Byddent yn gallu helpu eu tenantiaid yn well. Felly, mae hyn yn brifo pawb ac nid yw'n helpu neb. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU unwaith eto yr wythnos hon yn galw arnynt i ddadrewi a chynyddu'r cyfraddau lwfans tai lleol mewn ymdrech i gadw eu hymrwymiad i gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn yn gweld y Llywodraeth asgell dde eithriadol hon yn cosbi hawlwyr budd-daliadau ar adeg pan fo'n amlwg eu bod yn ceisio cynyddu cyfoeth y rhai mwyaf cyfoethog yn ein poblogaeth. Mae'n gwbl warthus eu bod yn rhewi cyfraddau tai lleol ar adeg pan fo rhenti'r sector rhentu preifat yn codi ar y gyfradd gyflymaf mewn dros ddegawd mewn sawl ardal, a bwlch sylweddol rhwng costau rhent pobl a'r cyfraddau sy'n cael eu talu ar hyn o bryd.
Mae torri cyllidebau lles eraill, sydd eu hangen yn awr yn fwy nag erioed, yn dwysáu'r methiant i ddadrewi a chynyddu'r lwfans tai lleol. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r gyllideb taliadau disgresiwn at gostau tai i gefnogi pobl yr effeithir arnynt fwyaf gan y toriadau i fudd-daliadau, ond eleni, penderfynodd y Llywodraeth Dorïaidd dorri tua 27 y cant, neu £2.3 miliwn, oddi ar y gyllideb honno o'i gymharu â'r llynedd. Daw hyn ar ben gostyngiad blaenorol o 18 y cant. Mae'r rhain yn ostyngiadau enfawr mewn cyllid, ac maent yn gwaethygu sefyllfa'r rhai sy'n profi'r argyfwng costau byw eisoes. Rwyf wedi galw ar Lywodraeth y DU yn y gorffennol i adfer y toriadau hyn. Nid oes unrhyw arwydd y byddant yn gwrando ar y galwadau hynny, ac rwy'n galw ar yr Aelodau Ceidwadol yma heddiw i ddweud yn gyhoeddus eu bod yn credu bod y toriadau hyn yn anghywir ac y dylid eu gwrthdroi.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn cydnabod yr argyfwng costau byw enfawr y mae aelwydydd yn ei wynebu ledled Cymru. Rwyf wedi nodi heddiw yn y cyfnod byr o amser sydd ar gael ein bod ni, ac y byddwn ni, yn parhau i gefnogi pobl ledled Cymru drwy'r cyfnod heriol eithriadol hwn. Rydym yn cyflymu ein gweithredoedd i ddeall effeithiau a chanlyniadau posibl mesurau ychwanegol yn well, ond nid ydym yn credu mewn cyflwyno mesurau heb sylfaen dystiolaeth gadarn, gan ein bod yn gwybod y gallant arwain at ganlyniadau anfwriadol difrifol iawn ac arwain at fwy o ddigartrefedd.
Fel bob amser, Lywydd, hoffwn orffen drwy ddiolch i'r holl bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau digartrefedd ledled Cymru. Maent wedi gweithio'n eithriadol o galed drwy'r pandemig ac yn parhau i wneud hynny i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gwasanaeth, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin—rwyf am nodi hynny: yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin, mae pawb yng Nghymru yn cael gwasanaeth ar gyfer digartrefedd, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod pobl yn gallu aros yn ddiogel yn eu cartrefi drwy'r argyfwng sydd i ddod y gaeaf hwn. Diolch.