7. Dadl Plaid Cymru: Y sector rhentu preifat

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 6:05, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Maent wedi awgrymu rhai syniadau a fydd yn helpu, ac ar hyn o bryd, nid yw'r Llywodraeth wedi mabwysiadu'r syniadau hynny ac nid ydynt yn eu cyflawni. Hefyd, fe wyddom y bydd pobl yn cael eu gwneud yn ddigartref dros y misoedd nesaf, felly rydym eisiau gweld gweithredu yn awr i sicrhau nad yw'r bobl hynny'n cael eu gwneud yn ddigartref, yn lle ei wthio ymlaen i'r dyfodol efallai. Dyna'r hyn yr ydym yn ei gynnig. Byddai rhewi rhenti'n helpu i ymdrin â hynny. Dyna wirionedd y mater hwn. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddewis arall; nid oes unrhyw awgrym arall yn dod gan y Llywodraeth nac unrhyw un arall i ymdrin â'r argyfwng sy'n ein hwynebu heddiw, ac oni bai ein bod yn gweithredu heddiw, fe wyddom y byddwn yn gweld mwy o bobl yn ddigartref. Ofn yw'r hyn sy'n achosi'r diffyg gweithredu hwn, ac ar hyn o bryd ni allwn fforddio peidio â gweithredu. Gallech wneud hyn; gallech weithredu i achub bywydau. Mae angen inni weld yr un argyhoeddiad a ddangosodd eich Llywodraeth yn ystod argyfwng COVID a'r dewrder a ddangoswyd gennych. Mae angen inni weld hynny'n digwydd eto heddiw. Fel y dywedodd Sioned, mae angen gweithredu radical ac ni allwn sefyll o'r neilltu a gwneud dim. Felly, gadewch inni gefnogi'r cynnig hwn er mwyn inni allu rhoi'r arweinyddiaeth sydd ei hangen ar y Llywodraeth i weithredu er mwyn lliniaru'r amgylchiadau gwaethaf heddiw. Diolch.