7. Dadl Plaid Cymru: Y sector rhentu preifat

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:58, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wrando ar gyfraniad cyntaf Janet Finch-Saunders, ac Andrew R.T. Davies hefyd, roedd yna eironi yn y ffaith eu bod yn cydnabod bod y farchnad rydd yn gwneud cam mawr â'n cymunedau, a'u bod felly yn galw am, ac yn mynnu ymyrraeth gan y wladwriaeth ar adeiladu tai, dim ond i weld y tai cymdeithasol hynny'n cael eu gwerthu'n ôl i'r sector preifat—mae yna eironi pendant yno sy'n amlwg yn cael ei golli. Rydych eisiau gweld mwy o dai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu, sef ymyrraeth y wladwriaeth—[Torri ar draws.] Iawn, rwy'n fodlon derbyn ymyriad.