7. Dadl Plaid Cymru: Y sector rhentu preifat

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 6:03, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym yn derbyn yr hyn y mae Crisis yn poeni amdano, ac rwy'n credu fy mod wedi nodi hynny yn fy sylwadau gwreiddiol. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw, er ein bod yn derbyn y gallai hynny ddigwydd yn y dyfodol, fe wyddom ei fod yn mynd i ddigwydd yn awr. Gwyddom fod pobl yn cael eu gwneud yn ddigartref yn awr, felly mae angen camau arnom i liniaru'r sefyllfa honno. Nawr, gwyddom hefyd fod y camau a nodwyd gennym yn gweithio yn Ffrainc, maent yn gweithio yn Nenmarc, maent wedi gweithio yn Iwerddon hefyd. Felly, oherwydd eich ofn y gallai rhywbeth ddigwydd—oherwydd ofn Crisis a'r Llywodraeth y gallai rhywbeth ddigwydd—yr hyn a ofynnwch yw gadewch inni beidio â gwneud unrhyw beth. Dyna y gofynnwch amdano.

Nawr, ni allwn—