Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno i roi munud o amser i Mike Hedges, Heledd Fychan, Peredur Owen Griffiths a Jenny Rathbone. Beth yw lwfans cynhaliaeth addysg heblaw rhaff achub i gynifer, heddiw ac yn y gorffennol? Ym 1999, cyhoeddodd Llywodraeth y DU raglen beilot mewn 15 ardal awdurdod lleol. Cynigiai'r rhaglen daliad i fyfyrwyr 16 i 19 oed o deuluoedd yr ystyrid eu bod yn deuluoedd incwm isel ac a oedd mewn addysg amser llawn naill ai yn yr ysgol neu'r coleg. Roedd y cwestiwn yn un syml, ond hefyd yn un uchelgeisiol: a ellid cynyddu cyrhaeddiad a chyfranogiad drwy fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r problemau ariannol sy'n wynebu plant o deuluoedd incwm isel? Yn 2000, trodd 15 ardal awdurdod lleol yn 55, ac ar ôl i'r peilot ddod i ben, cafodd y lwfans cynhaliaeth addysg ei gyflwyno ledled y DU yn 2004. Parhaodd tan fis Hydref 2010, pan benderfynodd Llywodraeth y DU gael gwared arno.
Ond ni chafodd ei ddirwyn i ben yma yng Nghymru, ac fel y dywedais o'r blaen, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ei ddiogelu ar y pryd, ac wedi ei ddiogelu ers hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny fel cymaint o blant eraill o deuluoedd incwm isel. Ond os yw'n dal i fodoli yma yng Nghymru, pam ein bod yn cael y ddadl hon? Y gwir amdani yw bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn methu diwallu'r anghenion a'r heriau sy'n wynebu dysgwyr heddiw. Yn bennaf oll, nid yw gwerth taliad lwfans cynhaliaeth addysg yn agos at fod yn ddigon i gefnogi dysgwr. Mae'r gwerth wedi aros ar £30 yr wythnos ers 2004, bron i ddau ddegawd heb ei godi. Pe bai'r taliadau wedi cadw gyfuwch â chwyddiant, byddai'r taliad heddiw yn £45 yr wythnos. Mae hynny wedi arwain at doriad o draean mewn termau real yng ngwerth y lwfans cynhaliaeth addysg dros y cyfnod hwn. Yn 2020, dywedodd Robert, 17 ar y pryd, wrth Sefydliad Bevan,
'Mae angen mwy o lwfans cynhaliaeth addysg. Nid yw £30 yn prynu unrhyw beth i chi. Mae'n ddiwerth. Mae wedi mynd erbyn ichi dalu costau sylfaenol.'
Dywedodd Chloe, 16 ar y pryd, 'Mae'n iawn, ond yn anodd ei rannu ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch.' A dywedodd Thomas, a oedd yn 18 oed ar y pryd, fod llyfrau'n rhy ddrud i'w fforddio.
Ond y pryder mwyaf a nodwyd gan ddarparwyr addysg mewn perthynas â'r taliad fel y mae ar hyn o bryd, oedd bod rhai dysgwyr wedi rhoi'r gorau iddi oherwydd eu bod yn credu y byddent yn well eu byd yn ariannol yn hawlio lwfans ceisio gwaith neu'n cael swydd amser llawn. Roedd llawer yn methu fforddio parhau â'u haddysg hyd yn oed pan oeddent yn cael lwfans cynhaliaeth addysg. Mae hyn, wrth gwrs, yn mynd yn groes i'r brif egwyddor y sefydlwyd y lwfans cynhaliaeth addysg arni, a bydd y pandemig, a'r argyfwng costau byw mae'n siŵr, yn gwneud y sefyllfa'n waeth. Felly, mae angen mynd i'r afael â'r taliad wythnosol ar fyrder.