Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 18 Hydref 2022.
Diolch. Wrth gwrs, mae'r pedwerydd Canghellor, yn yr un faint o fisoedd, bellach wedi claddu Trussonomics ac wedi gwneud tro pedol o ran y gyllideb fach gyfan fwy neu lai, ond, fel yr amlinelloch chi, bydd effeithiau llywio'r economi fel car bympar yn arwain at ganlyniadau dinistriol: trethi uwch, chwyddiant uwch, cyfraddau morgais uchel. Ydy hi'n deg bod pobl Cymru a phobl y DU yn cael eu trin fel testun arbrawf gan y Ceidwadwyr?