Y Marchnadoedd Ariannol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 18 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:36, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna. Mae'r aflonyddwch diweddar ym marchnadoedd ariannol y DU, a datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn gatalydd, wedi cynyddu cost benthyca i'r Llywodraeth, busnesau a dinasyddion cyffredin. Bydd yn niweidio twf, yn gwaethygu'r cyllid cyhoeddus ac yn gwneud bywyd yn anoddach i fenthycwyr, gan gynnwys prynwyr tai.