Diogelwch Adeiladau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 18 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 1:34, 18 Hydref 2022

Brif Weinidog, mae'r gallu gan y Senedd hon i basio deddfwriaeth frys a deddfwriaeth trwy weithdrefnau carlam. Enghraifft o'r ddeddfwriaeth frys oedd Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, a gweithdrefnau carlam i'r Bil plastig untro. Y ddadl a ddefnyddiwyd dros ddefnyddio proses y legislative consent motion ar gyfer diogelwch adeiladau oedd ei bod hi'n gynt na deddfu yma yn y Senedd. Ond, serch hynny, dros bum mlynedd a hanner ers Grenfell, mae nifer o bobl, sy'n byw nid nepell o'r lle hwn, yn dal i fyw mewn ofn yn eu cartrefi. Pam, felly, dyw'r Llywodraeth yma ddim yn defnyddio'r prosesau sydd gan y Senedd hon er mwyn dod â'r hunllef yma i ben i filoedd ar filoedd o bobl?