1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2022.
1. A wnaiff y Prif Weinidog gyflymu'r broses o gyflwyno deddfwriaeth ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru? OQ58574
Llywydd, mae'r gwaith o ddiwygio deddfwriaeth diogelwch adeiladau eisoes wedi cychwyn ar ei daith drwy gymalau Cymru yn Neddf Diogelwch Adeiladau 2022. Ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar newidiadau deddfwriaethol ychwanegol, ac mae deddfwriaeth sylfaenol yn y maes hwn wedi'i chynllunio ar gyfer tymor y Senedd hon.
Diolch. Cwrddais â'r Welsh Cladiators yn ddiweddar, ac maen nhw'n teimlo'n anobeithiol iawn ynghylch yr hyn y maen nhw'n ei ystyried yn ddiffyg cynnydd yma yng Nghymru. Wrth gwrs, Prif Weinidog, fe fyddwch chi'n gwybod bod tua 163 o adeiladau ledled Cymru lle mae trigolion yn dal i fyw mewn ofn. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod £375 miliwn wedi'i ddarparu i fynd i'r afael â rhai agweddau ar ddiogelwch adeiladau, ond mae rhai cwmnïau rheoli lesddaliadau yn atebol i dalu am y gwaith hwn ar hyn o bryd. Nawr, mae'n debyg, bod hyn yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru. Ym mis Ebrill, cafodd Deddf Diogelwch Adeiladau Llywodraeth y DU Gydsyniad Brenhinol, ac, er enghraifft, mae adran 122 ac Atodlen 8 yn cynnwys amddiffyniadau i denantiaid mewn cysylltiad â chostau sy'n gysylltiedig â diffygion perthnasol ac yn gosod rhwymedigaethau ar landlordiaid. Nid yw amddiffyniadau lesddeiliaid o'r fath ar gael yng Nghymru am nad ydym wedi pasio Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru). Felly, a wnewch chi ganiatáu'r un amddiffyniadau i lesddeiliaid—yn amlwg, pan fydd unrhyw ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno—ag sydd ganddynt yn Lloegr, drwy efelychu adrannau 116 i 125 o'r Ddeddf Diogelwch Adeiladau? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd hi'n gwybod bod Deddf Diogelwch Adeiladau 2020 eisoes yn cynnwys sawl darpariaeth i ychwanegu at amddiffyniadau lesddeiliaid yma yng Nghymru. Felly, roeddem yn gallu sicrhau'r amddiffyniadau ychwanegol hynny drwy Ddeddf 2022. Cyflwynodd Llywodraeth y DU gyfres gyfan o welliannau hwyr iawn i'r Ddeddf—i'r Bil, fel yr oedd bryd hynny—nad oeddem yn gallu manteisio arnyn nhw, er gwaethaf ymdrechion sylweddol iawn gan y Gweinidog dan sylw i gael pwerau Cymreig yn y meysydd ychwanegol hynny. Golyga hyn y byddwn, pan gyflwynir ein deddfwriaeth ni ein hunain, yn ceisio sicrhau bod gennym ni'r system honno sydd ei hangen arnom ar waith ar gyfer diogelwch adeiladau yma yng Nghymru.
Mae'n bwysig, Llywydd, i wahanu dau fater. Mae yna bethau yr ydym yn eu gwneud yma a nawr i bobl a effeithiwyd eisoes yn yr adeiladau uchel hynny. Roedd Janet Finch-Saunders yn hollol gywir, Llywydd, i gyfeirio at y £275 miliwn a neilltuwyd i helpu pobl o dan yr amgylchiadau hynny. Bydd yr Aelodau yma yn gwybod ein bod ni wedi gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan bobl a oedd eisiau i'r arolygon gael eu cynnal fel y gallem ni nodi'r ffordd orau y gellid darparu'r cymorth hwnnw. Roedd 261 o ddatganiadau o ddiddordeb, ac mae 163 o'r rheiny yn gofyn am arolygon mwy dwys er mwyn nodi lle mae'r namau. Rwy'n falch o allu dweud ein bod yn disgwyl i bob arolwg brys nawr gael ei gwblhau o fewn y pythefnos nesaf, ar yr amod bod gennym ni fynediad i'r adeiladau hynny. Ac un o'r rhesymau pam y bu oedi cyn cael rhai o'r arolygon ychwanegol, mwy ymwthiol hynny wedi'u cwblhau, yw oherwydd ein bod wedi profi anawsterau o ran caniatáu i syrfewyr gael mynediad i'r adeiladau er mwyn i'r gwaith hwnnw gael ei wneud. Rydym yn disgwyl, ym mhob achos brys y gellir datrys hynny o fewn y pythefnos nesaf, ac yna byddwn yn symud ymlaen i gwblhau'r arolygon yn yr adeiladau hynny lle mae'r materion yn cael eu hystyried yn llai difrifol ar hyn o bryd. Ac yna, yn y ddeddfwriaeth y byddwn ni'n ei chyflwyno o flaen y Senedd, byddwn ni'n creu trefn ar gyfer y dyfodol gyda llinellau clir o atebolrwydd, rheoleiddio cryfach a mwy cydlynol, a threfn gorfodi a sancsiynau sy'n gwneud yn siŵr, yn y dyfodol, bod y rhai sy'n gyfrifol am y broblem hefyd yn ysgwyddo costau unioni pethau.
Brif Weinidog, mae'r gallu gan y Senedd hon i basio deddfwriaeth frys a deddfwriaeth trwy weithdrefnau carlam. Enghraifft o'r ddeddfwriaeth frys oedd Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, a gweithdrefnau carlam i'r Bil plastig untro. Y ddadl a ddefnyddiwyd dros ddefnyddio proses y legislative consent motion ar gyfer diogelwch adeiladau oedd ei bod hi'n gynt na deddfu yma yn y Senedd. Ond, serch hynny, dros bum mlynedd a hanner ers Grenfell, mae nifer o bobl, sy'n byw nid nepell o'r lle hwn, yn dal i fyw mewn ofn yn eu cartrefi. Pam, felly, dyw'r Llywodraeth yma ddim yn defnyddio'r prosesau sydd gan y Senedd hon er mwyn dod â'r hunllef yma i ben i filoedd ar filoedd o bobl?
Llywydd, mae'n bwysig, fel esboniais i, i gadw'r ddau beth ar wahân. Pan fyddwn ni'n siarad am ddeddfu, dydyn ni ddim yn siarad am beth rŷn ni'n ei wneud i bobl sydd yn y sefyllfa bresennol; rydym yn ymateb i hwnna drwy'r arian rŷn ni wedi ei roi ar y bwrdd a'r system sydd yn mynd ymlaen nawr. Dydy hwnna ddim yn dibynnu ar newid y gyfraith. Rŷn ni'n newid y gyfraith ar gyfer y dyfodol, i greu system newydd i helpu pobl i osgoi'r problemau mae rhai pobl yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Rŷn ni wedi cymryd pwerau, fe dywedais i. Dwi'n gwybod bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu bob tro rŷn ni'n gwneud hynny. So rŷn ni wedi tynnu pwerau i Gymru, pan oedd cyfle i wneud e. Rŷn ni'n mynd i ddeddfu yn y tymor hwn, ac, yn y cyfamser, i bobl sy'n dioddef heddiw, achos problemau sydd wedi codi yn barod, rŷn ni'n delio gyda hwnna gyda'r arian a gyda'r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd.