Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 18 Hydref 2022.
Llywydd, mae Llywodraethau Ceidwadol olynol y DU wedi methu â chreu sefyllfa o chwarae teg i ddiwydiannau ynni-ddwys. Mae angen i'r Canghellor diweddaraf wneud hynny nawr. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ein cefnogaeth drwy fuddsoddi mewn sgiliau, effeithlonrwydd ynni, ymchwil, arloesi, datgarboneiddio a dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru.