1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2022.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi cymorth ychwanegol i ddiwydiannau dwys o ran ynni? OQ58595
Llywydd, mae Llywodraethau Ceidwadol olynol y DU wedi methu â chreu sefyllfa o chwarae teg i ddiwydiannau ynni-ddwys. Mae angen i'r Canghellor diweddaraf wneud hynny nawr. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ein cefnogaeth drwy fuddsoddi mewn sgiliau, effeithlonrwydd ynni, ymchwil, arloesi, datgarboneiddio a dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru.
Diolch am yr ateb, Prif Weinidog.
Mae lletygarwch a'r bragdai a'r bwytai bach, annibynnol hynny sy'n gweithredu o fewn y diwydiant hwnnw yn wynebu rhai o'r amgylchiadau mwyaf heriol. Mae llawer yn disgwyl na fyddant yn goroesi y tu hwnt i'r gaeaf. Er enghraifft, dywedodd perchennog Ristorante Vecchio ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth The Glamorgan Gazette sut mae ei filiau ynni wedi cynyddu i £8,000 y mis. Yn syml, mae prisiau ynni yn amhosibl eu fforddio, ac, i ddilyn cwestiwn Mabon, mae cost ynni yn un rhan o hyn, wrth gwrs, ond mae hyn hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod yn symud tuag at atebion ynni gwyrdd cyn gynted ag y gallwn ni, a fyddai'n helpu gyda'r costau cynyddol a'r ymgyrch tuag at sero net. Mae bragdai fel Bragdy Boss yn Abertawe wedi gwario'u harian wrth gefn yn ceisio goroesi'r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Ychydig iawn, os o gwbl, o arian sydd ar gael ar gyfer buddsoddi cyfalaf mewn technoleg werdd. Felly, byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth pa ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i gyllid grant posibl i gwmpasu mentrau ynni gwyrdd ar gyfer busnesau annibynnol, fel offer solar ac optimeiddio foltedd, y gellid ei osod ar safleoedd y busnesau hyn, i helpu i'w diogelu nhw rhag cynnydd mewn prisiau.
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn y mae Luke Fletcher wedi'i ddweud am bwysigrwydd hirdymor bod â system wahanol o gyflenwi ynni. Bydd gan hynny gyfres arbennig o fanteision i'r diwydiannau ynni-ddwys hynny. Diolch iddo am dynnu sylw at y ffaith, yn ein trafodaethau am ddiwydiannau ynni-ddwys rydym ni'n tueddu i gael y ddadl wedi'i dominyddu gan y cwmnïau mawr iawn—y Tatas a Celsas y byd hwn. Ac roeddwn yn falch, Llywydd, o weld fod Prif Weinidog newydd y DU wedi cael cyfarfod ddiwedd Medi gyda phrif weithredwr Tata yn India. Fe wnes i ysgrifennu at y Prif Weinidog blaenorol, yn dilyn cyfarfodydd yr oedd Gweinidog yr economi a minnau wedi'u cael gydag uwch ffigyrau yn Tata, yn gofyn iddo gyflwyno cynllun y DU ar gyfer buddsoddi yn y diwydiant hwnnw. Atebodd gan ddweud y byddai hynny'n gyfrifoldeb ei olynydd. Wel, rwyf wedi ysgrifennu eto. Dydw i ddim wedi cael ateb, ond rwyf wedi ysgrifennu eto, ac roeddwn yn falch o weld bod y cyfarfod hwnnw wedi digwydd, oherwydd bod diwydiannau ynni-ddwys dan anfantais arbennig yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig o'i gymharu â chystadleuwyr mewn mannau eraill.
Mae rhan Llywodraeth Cymru yn hyn yn anorfod ar ran wahanol o'r sbectrwm, ond rydym yn gweithio drwy Fanc Datblygu Cymru, drwy Busnes Cymru hefyd, i ddarparu cyngor ac weithiau cefnogaeth ariannol uniongyrchol i ddiwydiannau sydd â diddordeb mewn newid tanwydd, mewn mesurau effeithlonrwydd, ac mewn bod yn rhan o'r symudiad ehangach hwnnw o danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy, y mae dyfodol Cymru, rwy'n credu, yn dibynnu arno.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Vikki Howells.