Costau Ynni

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 18 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:03, 18 Hydref 2022

Diolch yn fawr iawn i’r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Dwi yn derbyn bod yna fai sylweddol yma ar San Steffan, a bod yn rhaid iddyn nhw gamu i fyny a digolledu’r cwmnïau yma a sicrhau eu bod nhw yn parhau. Ond dyma roi rhai enghreifftiau i chi. Yn Nolgellau, rydyn ni wedi gweld Caffi’r Sgwar yn cau, y steakhouse yn cau, y deli yn cau. Mae’r Brondanw Arms yn Llanfrothen wedi cau. Mae Caffi Derfel ym Mhenrhyndeudraeth wedi cau. Dim ond rhai enghreifftiau o fusnesau yn fy etholaeth i ydy’r rhain, sydd wedi cau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae yna ragor yn ystyried cau rhwng rŵan a’r flwyddyn newydd.

Mae’r busnesau yma yn cau oherwydd y cyni mewn ynni. Mae un busnes yn dweud eu bod nhw wedi cael bil rŵan o £7,000 y mis i £70,000 y mis ar gyfer ynni. Mae’n gwbl, gwbl anghynaladwy. Ond, os ystyriwch chi Brondanw, er enghraifft, yn Llanfrothen, nepell o bwerdy hydro Maentwrog a Ffestiniog, mae’r rhain yn cynhyrchu sawl gigawat y flwyddyn, a’r ynni yna’n mynd allan o’r gymuned, nid er budd cymunedol, ond er budd pobl eraill. Felly, gan ystyried bod yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear drwy Magnox yn berchen ar bwerdy hydro Maentwrog, a ydych chi’n cytuno efo fi y dylid trosglwyddo’r adnodd yma i rym a gofalaeth cymunedol er mwyn i’r gymuned gael budd o’r pwerdai hydro yma?