Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 18 Hydref 2022.
Dwi’n cytuno gyda beth ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd egni cynaliadwy. Trwy greu system ar gyfer y dyfodol sy’n dibynnu ar egni cynaliadwy, gallwn ni weld dyfodol lle mae costau egni yn gallu bod yn fforddiadwy i fusnesau ac i bobl leol hefyd. Mae uchelgais gyda ni fel Llywodraeth i gynyddu’r canran o egni cynaliadwy sydd yn nwylo pobl leol. Rŷn ni wedi cynyddu nifer y rhaglenni ac mae yna enghreifftiau ledled Cymru lle mae hynny’n digwydd yn barod. Y mwyaf rŷn ni’n gallu ei wneud e fel yna, y mwyaf, dwi’n meddwl, y bydd pobl yn gallu gweld pwysigrwydd y polisi yna, ond hefyd y pethau mae’r polisi yn gallu eu gwneud yn eu bywydau nhw.