Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 18 Hydref 2022.
Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion y bwrdd taliadau meddygon a deintyddion, ac y bydd pawb sy'n gweithio yn GIG Cymru sydd dan sylw yn yr argymhellion hynny yn gwybod y byddant yn cael y codiadau a gynigiodd y bwrdd. Dydw i ddim mewn sefyllfa i wybod beth yw'r union drefniadau cyflog ar gyfer pob bwrdd iechyd ac i bob person sy'n gweithio iddyn nhw, ond rwy'n siŵr pe bai'r Aelod yn trafod ei phryderon gyda'r bwrdd iechyd, y byddan nhw'n gallu rhoi ateb iddi.