2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 18 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:48, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn am y pethau erchyll yr ydym ni wedi'u gweld gyda chaethwasiaeth fodern yma yng Nghymru, ac rwy'n gwybod y byddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn hapus iawn i gyflwyno datganiad ysgrifenedig, ac mae hi hefyd yn awyddus iawn i roi cyhoeddusrwydd i'r safon ymhlith sefydliadau yma yng Nghymru.