2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 18 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:41, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i ddatganiad brys gan Weinidog yr economi ar ôl y newyddion bod AMG Alpoco yng Nghaergybi wedi rhoi gwybod i'w staff bod 28 o swyddi yn mynd i gael eu colli yno erbyn diwedd Tachwedd. Mae'r llythyr a gafodd ei roi i staff ddoe yn dweud mai costau uwch, gan gynnwys costau ynni, sydd y tu ôl i benderfyniad y cwmni i ailstrwythuro. Mae hyn yn gyfystyr â mwy na hanner y gweithlu yn ffatri Caergybi. Afraid dweud, mae hyn yn ergyd fawr i bawb y gallai hyn effeithio arnyn nhw. A gaf i ofyn i Weinidog yr economi roi datganiad ysgrifenedig i ni gyda rhywfaint o frys, neu o leiaf ymateb i ni fel cynrychiolwyr lleol, yn egluro'r mesurau brys y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gysylltu â'r cwmni i weld pa fesurau y byddai modd eu rhoi ar waith i'w helpu a gobeithio cyrraedd man lle gall y cwmni ailystyried ei gynlluniau? Mae gen i gwestiwn ar hyn—ar y costau sy'n wynebu busnesau—yn y sesiwn cwestiynau yfory, ond roeddwn i'n ystyried bod hyn o'r brys mwyaf a hoffwn i gael datganiad cyn gynted â phosibl. Diolch.