Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 18 Hydref 2022.
Diolch i lefarydd y Ceidwadwyr am y sylwadau hynny y prynhawn yma, ac rwy'n cytuno ag ef, nid yw'r rhain wedi bod yn wythnosau da iawn, a dweud y lleiaf, ac mae hi'n sicr yn siomedig. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud y gorau y gallai yn y fan honno i anfon neges bendant at ei gydweithwyr yn San Steffan o ran asesiad y Ceidwadwyr Cymreig o'r traed moch a welsom ni yn San Steffan yn ddiweddar.
Ond rwyf i yn croesawu'r llythyr y bydd y Ceidwadwyr yn ei anfon i'r Canghellor diweddaraf ynglŷn â budd-daliadau—[Torri ar draws.] Mae wedi mynd, mae hynny'n ardderchog. Felly, gyda gobaith, fe fydd y Canghellor hwn yn cadw ei swydd yn ddigon hir i chi gael ateb, oherwydd ni chefais i un gan y diwethaf. Ond rwy'n credu bod hynny i'w groesawu o ran eich cefnogaeth chi i godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, ac mae hynny'n sicr i'w groesawu.
Roedd llawer o sylwadau yn y fan yna am dwf a sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried twf. Wel, fe grëwyd y comisiwn twf a sefydlwyd gan Ysgol Economeg Llundain i nodi ffyrdd o wella perfformiad twf dilewyrch y DU, ac fe dynnodd y comisiwn hwnnw sylw ei hun at bwysigrwydd hanfodol parhau i fuddsoddi yn y system addysg ac mewn sgiliau addasadwy a dysgu gydol oes. Roedd yn pwysleisio swyddogaeth allweddol seilwaith hefyd yn elfen hanfodol i dwf cynaliadwy, ac roedd yn dadlau o blaid cyfraddau uwch, ac nid is o fuddsoddiad mewn seilwaith ledled y DU. Mae hynny'n gwbl gyson â'r hyn y mae'r Prif Weinidog a fy nghydweithwyr eraill i'n sôn amdano bob amser ynglŷn â'n dealltwriaeth ni o dwf. Buddsoddi mewn pobl, buddsoddi mewn sgiliau a buddsoddi mewn seilwaith yw hwnnw. Rydym ni'n dymuno gweld, yn arbennig, fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd i'n harwain ni tuag at sero net ac i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Hefyd, mae hi'n werth cofio bod dadansoddiad ar gyfer Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dangos swyddogaeth hanfodol cynnal buddsoddiad mewn seilwaith i ymateb i'r heriau o wella perfformiad economaidd ardaloedd sydd ar ei hôl hi a chyflawni sero net hefyd a sicrhau cydnerthedd o ran yr hinsawdd a gwell amgylchedd. Felly, eto, mae hyd yn oed y comisiwn seilwaith hwnnw'n gweld pethau fel y gwnawn ni yn Llywodraeth Cymru.
Roedd gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf yn ymddangos fel pe bai'n ymwneud â dim ond torri treth ar gyfer y rhai cyfoethocaf un, fel pe bai hynny'n mynd i fod y cymhelliant yr oedd ei angen arnynt, ac wedyn nid oes dim ar ôl o weledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf yn y cynllun presennol, ar wahân i'r ymrwymiad parhaus, fel rwyf i'n ei ddeall, i'r parthau buddsoddi. Eto i gyd, ychydig iawn o fanylion sydd gennym ni ynglŷn â sut olwg allai fod ar y parthau buddsoddi hynny. Rydym ni'n edrych ymlaen at drafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU ynghylch hynny.
Roedd yr Aelod yn cyfeirio hefyd at y drafodaeth a gefais i gyda'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys. Ddoe yr oedd hynny, ac fe wnes i hynny ochr yn ochr â fy nghymheiriaid yn yr Alban. Roedd honno'n sgwrs ddefnyddiol iawn, yn fy marn i, ond yr hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw prif ysgrifennydd sydd yn ei gweld hi'n rhan wirioneddol o'i gyfrifoldebau craidd i fod â pherthynas fel hon gyda Llywodraeth Cymru a gyda'r Llywodraethau datganoledig eraill o ddydd i ddydd, a chael rhywun sydd â diddordeb gwirioneddol yng Nghymru, ar gyfer mynd i'r afael â'r pethau yr ydym ni'n ceisio gwneud cynnydd yn eu cylch gyda Llywodraeth y DU.
Hwn, fel dywedodd y Prif Weinidog, fydd y chweched Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys a welais yn fy amser i ac mae honno'n broblem, yn yr ystyr bod yn rhaid i chi ddechrau o'r dechrau bob tro yr ydych chi'n gweithio gyda Phrif Ysgrifennydd newydd i'r Trysorlys, oherwydd mae llawer o'r materion yr ydym ni'n ceisio symud ymlaen â nhw yn rhai manwl a chymhleth iawn. Mae'r materion sy'n ymwneud â chyllid yn lle'r cyllid oddi wrth yr UE a'r fformiwla a ddefnyddiodd Llywodraeth y DU i benderfynu ar y cyllid hwnnw, sy'n ein gadael £1 biliwn yn brin, mae angen i ni gael trafodaethau manwl am hynny. Mae angen i ni barhau â'r trafodaethau hynny yr ydym ni'n dechrau eu cael ynghylch hyblygrwydd cyllidol i Gymru. Felly, mae hi'n siomedig pan fydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i'r dechrau un, dro ar ôl tro, gyda'r trafodaethau hyn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd meithrin perthynas dda, newydd, gref gyda'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys diweddaraf yn dechrau mynd â ni i lawr y llwybr hwnnw hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r berthynas honno.