3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y Canghellor ar y cynllun ariannol tymor canolig

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 18 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:04, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n rhaid imi ddweud bod y llanast hwn yn dangos unwaith eto y graddau yr ydym ni yma yng Nghymru ar drugaredd mympwyol Gweinidogion yn San Steffan. Mae hynny'n tanlinellu unwaith eto sut mae'r setliad datganoli presennol yn ein gadael ni'n ddirym yn ariannol o ran gallu gwarchod ein buddiannau, a diogelu'r bobl sy'n agored i niwed yn ein plith, rhag penderfyniadau niweidiol Llywodraeth y DU.

Yn ddiweddar, fe wnaethoch chi ddisgrifio bod yn rhan o'r undeb a bod â Llywodraeth y DU yno fel rhyw fath o bolisi yswiriant i Gymru, ond siawns bod yn rhaid i chi dderbyn erbyn hyn ei bod hi wedi bod ychydig yn fwy tebyg i faen melin am ein gyddfau ni yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac os nad yw digwyddiadau diweddar yn dadlau'r achos o blaid annibyniaeth, wel, siawns nad yw'n dadlau'r achos o blaid mwy o annibyniaeth gyllidol i Gymru: mwy o bwerau i ddiogelu ein pobl ni rhag yr enbydrwydd yr ydym ni'n ei deimlo eisoes ac mae'n siŵr y bydd hwnnw'n dwysáu yn ystod y misoedd nesaf.

Nawr, rydych chi'n dweud yn y datganiad mai Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau ariannol allweddol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr argyfwng costau byw, ac mae angen iddi ddefnyddio'r ysgogiadau hynny o ran trethiant mewn ffordd decach. Wel, pam fyddech chi'n caniatáu i'r Torïaid wneud eu gwaethaf, yn lle mynnu pwerau i chi wneud eich gorau i bobl Cymru? Fe wyddom ni, yn yr Alban, eu bod nhw'n gallu diwygio'r bandiau treth incwm hynny. Mae honno'n ffordd o gael gwell adlewyrchiad o allu pobl i dalu. Dyna'r lleiaf y gallwn ni ei ddisgwyl, rwy'n credu, yma yng Nghymru. Ond, os ewch chi â hynny i'r pegwn arall, os nad yw Llywodraeth y DU yn cyflwyno treth ffawdelw ar gwmnïau ynni, yna pam na allem ninnau fod â'r pwerau yma i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, yn lle gwneud dim ond cwyno mewn datganiad ysgrifenedig neu ddatganiad llafar?

Wedi dweud hynny, pwerau newydd, ie, iawn, mae hwnnw'n un peth, ond mae angen i ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym eisoes hefyd i'r effaith fwyaf posibl i amddiffyn y bobl fwyaf bregus rhag yr hyn sydd o'n blaenau ni. Gwnaeth y Prif Weinidog osgoi hyn unwaith eto yn gynharach, felly rwyf i am ofyn a fyddech chi'n cadarnhau bod amrywio cyfraddau Cymru o dreth incwm yn cael ei ystyried o ddifrif gan y Llywodraeth hon. Ac a wnewch chi ymuno â Phlaid Cymru i dderbyn ei bod hi'n ymddangos fel pe bai hi am fod yn angenrheidiol i weithredu fel hyn i, unwaith eto, liniaru rhai o'r toriadau dinistriol gan San Steffan sydd ar y gorwel?

Rydych chi'n iawn i feirniadu'r ffaith bod y pecyn cymorth ynni am gael ei gwtogi i chwe mis, oherwydd mae hynny'n rhoi ymyl clogwyn a phobl yn y tywyllwch o ran yr hyn a fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Rwy'n deall eich bod chi wedi siarad, fel roeddech chi'n dweud, gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ond pa gynlluniau sydd gennych chi i siarad â'r Canghellor ei hun mewn gwirionedd, i nodi nid yn unig yr achos o blaid rhagor o bwerau cyllidol i Gymru, ond i wneud yn siŵr ei fod e'n deall y goblygiadau i Gymru oherwydd ei gyhoeddiadau diweddar, a gwneud yn siŵr hefyd, cyn y datganiad ar ddiwedd y mis, ei fod yn deall pa oblygiadau a allai fod i ni yma yng Nghymru?

O ran ynni yn benodol, a fyddwch chi'n dadlau'r achos o blaid yr eiddo hynny sydd oddi ar y grid, yn arbennig, oherwydd mae hwnnw'n rhywbeth sy'n peri pryder enfawr? Fe wn i fod Ben Lake, fy nghyd-aelod o Blaid Cymru sydd yn San Steffan, wedi codi'r angen am gefnogaeth o ran olew a phobl sydd oddi ar y grid. Ni wnaeth y Canghellor ddiystyru hynny. Felly, yn eich trafodaethau chi gyda'r Canghellor, a fyddwch chi'n ailadrodd yr angen i estyn cefnogaeth i'r rhai nad ydyn nhw'n gallu cael gafael arno yn yr un ffordd â'r rhan fwyaf o bobl ar hyn o bryd?

Nawr, ddoe, roedd eich datganiad ysgrifenedig chi'n nodi nad oedd y Canghellor ddim i fod o unrhyw gysur i'r rhai mwyaf agored i niwed. Wel, fe allem ninnau roi'r un dyfarniad ar eich datganiad chithau heddiw. Nid oes unrhyw beth sy'n newydd yma; ambell i gyfeiriad annelwig at gynlluniau cymorth a gyhoeddwyd yn flaenorol. Roeddwn i'n gobeithio y byddech chi'n dod yma heddiw mewn gwirionedd gyda rhywbeth ychydig yn fwy pendant i'w ddweud wrthym ni. Ac rydych chi'n dweud bod angen i Lywodraeth y DU ganolbwyntio ei hymdrechion o'r newydd i helpu'r rhai sydd yn yr angen mwyaf. Wel, siawns nad yw hynny yr un mor wir i Lywodraeth Cymru hefyd, ac onid yw hi'n bryd i chi fod yn paratoi cyllideb frys yma yng Nghymru i ganolbwyntio o'r newydd ac ailddyrannu adnoddau i helpu'r mwyaf anghenus, fel y dywedwch chi, a gwneud hynny ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, wrth gwrs, a pheidio aros tan y flwyddyn nesaf?

Ac yn olaf, o ran cyllideb y flwyddyn nesaf, rydych chi wedi dweud hyn ddwywaith nawr, yn y datganiad ysgrifenedig diwethaf ddoe a'ch datganiad llafar chi heddiw, y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei chyflwyno ar 13 o fis Rhagfyr. Fy nealltwriaeth i oedd mai'r cytundeb gwreiddiol oedd na fyddai hi'n ddim hwyrach na 13 o fis Rhagfyr, a bod y dyddiad hwnnw wedi cael ei ddewis, neu gael ei nodi, oherwydd ei fod o ran cyhoeddiad cyllidol disgwyliedig Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd. O ystyried bod hwnnw am ddod yn gynt erbyn hyn, siawns eich bod chi mewn sefyllfa i gyhoeddi eich cyllideb ddrafft chi'n gynharach. Byddai hynny'n caniatáu mwy o graffu gan y Senedd hon, ac yn rhoi mwy o amser arweiniol hefyd i ddarparwyr y gwasanaethau cyhoeddus hynny yng Nghymru y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud i bob ceiniog goch weithio mor galed â phosibl.