Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 18 Hydref 2022.
Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl sylwadau hynny. Rwyf i am ddechrau lle y dechreuom ni'r tro diwethaf pan oeddem ni'n trafod cyllideb fach Llywodraeth y DU, a'r ffaith mai fy marn i yw nad y DU yw'r broblem, Llywodraeth y DU yw'r broblem, ac mae gennym ni gyfle i newid hynny. Rwy'n credu bod sefyllfa'r Prif Weinidog presennol yn gwbl anghynaladwy, yn fy marn i, yn enwedig oherwydd bod y gyflafan a ddilynodd hynny o'i gwneuthuriad hi ei hun, lawn cymaint â'r Canghellor, y gwnaeth hi ei ddiswyddo o'i waith.