Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 18 Hydref 2022.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain y ddadl bwysig hon gyda'r Aelodau ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant ar gyfer 2021-22. Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn rhoi sylw annibynnol blynyddol ar anghenion plant a'u hawliau, ac yn sicrhau ein bod ni’n cynnal pwyslais cyfunol arnyn nhw. Mae'r adroddiad hwn yn gyfle i ni fyfyrio ar y cynnydd ac i ystyried sut y gallwn ni barhau i wneud gwelliannau i fywydau plant a phobl ifanc Cymru.
Hoffwn ddechrau drwy groesawu ein Comisiynydd Plant newydd i Gymru, sef Rocío Cifuentes, a ddechreuodd ei chyfnod yn y swydd ym mis Ebrill eleni. Rwyf i wedi cwrdd â'r comisiynydd newydd ar sawl achlysur ers ei phenodi, ac rwy'n croesawu ei hymrwymiad a'i hymroddiad i gynnal hawliau plant ers dechrau ar y rôl bwysig hon. Mae hi wedi defnyddio'r cyfnod cychwynnol hwn i gwrdd â phlant a phobl ifanc ledled Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniad ei hymarfer ymgysylltu ar raddfa fawr, Gobeithion i Gymru, a fydd yn galluogi plant a phobl ifanc i leisio eu barn ac i ddylanwadu ar ei chynllun gwaith tair blynedd.
Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cyn-gomisiynydd, yr Athro Sally Holland, am yr holl waith y mae hi wedi ei wneud dros blant a phobl ifanc. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu ei blwyddyn olaf yn y swydd, fel y cyn-gomisiynydd.
Mae'r comisiynydd yn tynnu sylw yn gywir yn ei chyflwyniad at effaith pandemig COVID-19, a nawr yr argyfwng costau byw, ar blant a phobl ifanc a'u teuluoedd, a hoffwn roi sicrwydd i Aelodau y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i wneud popeth o fewn ein pwerau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Rhaid i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi plant fod yn flaenoriaeth glir a pharhaus i'r Llywodraeth hon o hyd, ac mi fydd, gan fod hyn yn sail i gymaint o gyfleoedd bywyd, canlyniadau a rhagolygon ein pobl ifanc yn y dyfodol.
Fodd bynnag, rydym ni hefyd yn glir mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y prif ddulliau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant—pwerau dros y system dreth a lles— ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y comisiynydd yn codi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth y DU. Mae angen i bob lefel o Lywodraeth weithio gyda'i gilydd os ydyn ni'n mynd i gefnogi plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn ystod yr argyfwng digynsail hwn.
Mae'r adroddiad blynyddol yn gyfle i'r comisiynydd dynnu sylw at waith y sefydliad, a hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at waith parhaus y comisiynydd wrth gefnogi cyrff cyhoeddus i ddilyn dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant. Mae rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd ein gwasanaethau cyhoeddus mor bwysig, ac rwy'n croesawu ymrwymiad swyddfa'r comisiynydd i ddarparu'r gefnogaeth hon. Mae'r swyddfa wedi datblygu 'Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru', sef canllaw ymarferol i helpu sefydliadau i roi hawliau plant wrth wraidd yr holl benderfyniadau cynllunio a darpariaeth gwasanaethau. Mae'r pum ffordd o weithio, gwreiddio hawliau plant, cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu, grymuso plant, hwyluso cyfranogiad ystyrlon a strwythurau atebolrwydd clir yn darparu fframwaith clir a chefnogol.
Rydym ni, fel sefydliad, dan arweiniad fy nghydweithiwr Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi defnyddio'r egwyddorion hyn wrth ddatblygu ein cynllun hawliau plant ein hunain, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, ond hoffwn hefyd ddiolch i'r comisiynydd a'i staff am yr holl waith a wnaethant i eirioli dros blant a phobl ifanc wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Enghraifft o hyn oedd datblygiad rhaglen Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd am y tro cyntaf haf diwethaf. Gan gydweithio gyda'r Urdd a Chwaraeon Cymru, llwyddodd y comisiynydd i ddod â nifer o bartneriaid allweddol ynghyd ar gyfer cyfres o drafodaethau bwrdd crwn gyda Llywodraeth Cymru i edrych ar y ffordd orau i gefnogi adferiad ein plant a'n pobl ifanc a rhoi cyfle i'r partneriaid hynny glywed gan blant a phobl ifanc eu hunain am yr hyn oedd yn bwysig iddyn nhw. Fe wnaeth hyn, wedyn, gyfrannu at ddatblygiad ein rhaglen Haf o Hwyl, a oedd yn darparu gweithgareddau rhad ac am ddim ar gyfer datblygiad a lles plant a phobl ifanc ledled Cymru. Fe wnaethom ddarparu dros 67,000 o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw trwy'r Gaeaf Llesiant dilynol. Ac yn ystod yr Haf o Hwyl eleni hefyd fe wnaethom ni ddarparu bwyd yn ogystal â gweithgareddau rhad ac am ddim.
Gan droi at yr argymhellion yn yr adroddiad blynyddol, mae'r comisiynydd wedi cyflwyno 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac mae'r rhain yn dod o dan bedair thema: safon byw digonol; amgylchedd teuluol a gofal amgen; amddiffyniad rhag ecsbloetio a thrais; ac addysg, dinasyddiaeth a gweithgareddau diwylliannol. Mae'r argymhellion hyn yn ymdrin â materion pwysig ym mhob rhan o'r Llywodraeth, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi plant, eiriolaeth iechyd, plant a phobl ifanc mewn gofal ac yn gadael gofal, amddiffyn plant a chyfiawnder, addysg, iechyd meddwl, trafnidiaeth a theithio i ddysgwyr. Rwy'n croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad. Rwy'n derbyn hefyd nad yw cynnydd mewn rhai meysydd wedi bod fel y byddem wedi'i hoffi oherwydd pwysau'r pandemig ar adnoddau. Ond, ni fyddaf yn trafod manylion ymateb Llywodraeth Cymru heddiw. Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol y comisiynydd erbyn 30 Tachwedd.
Mae heddiw yn gyfle i'r Aelodau fynegi eu barn ar adroddiad y comisiynydd a rhoi sylwadau ar y meysydd mae'r comisiynydd wedi eu codi. Rydym ni’n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau a byddwn yn ystyried y safbwyntiau hyn wrth i ni baratoi ein hymateb swyddogol. Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwy’n edrych ymlaen at y ddadl bwysig hon ar adroddiad y comisiynydd plant a'n cynnydd o ran cefnogi hawliau plant yng Nghymru. Mae rôl annibynnol y comisiynydd yn hollbwysig er mwyn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, a byddwn yn parhau i weithio gyda'i swyddfa er budd holl blant a phobl ifanc Cymru. Diolch.