Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 18 Hydref 2022.
Diolch, Gweinidog, ond rhaid i mi gyfaddef fy mod i wedi fy synnu braidd gan y diffyg sylwedd yn yr adroddiad hwn. Mae'n drwm iawn ar ystadegau swyddfa'r comisiynydd ac yn cynnwys rhai manylion amherthnasol, fel trafodaethau ynghylch podlediadau sy'n dod â hud a chwerthin i'r swyddfa. Byddwn i, a llawer yma rydw i’n credu, wedi gobeithio y byddai'r adroddiad blynyddol hwn, yn enwedig gan mai hwn oedd yr olaf o gyfnod y comisiynydd blaenorol, wedi rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r gwaith sydd i'w wneud o hyd a rhai argymhellion wirioneddol heriol i Lywodraeth Cymru. Er bod yr argymhellion a gynigir yn sicr yn deilwng, rwy'n credu bod y comisiynydd wedi colli cyfle yma i fod wedi gwthio llawer caletach ac i adrodd pa dystiolaeth maen nhw wedi’i darparu a pha heriau maen nhw wedi’u gosod i Lywodraeth Cymru.
Er enghraifft, yn y rhan 'sut rydyn ni'n dylanwadu' yn yr adran mynd i’r afael â thlodi plant, mae'r comisiynydd yn dweud eu bod wedi ysgrifennu llythyrau at wahanol Ysgrifenyddion Gwladol yn gofyn am gyfarfodydd, ond heb gael unrhyw lythyrau cydnabyddiaeth bod eu llythyrau wedi cael eu derbyn. Mae hyn yn ein harwain i ofyn pam nad yw swyddfa'r comisiynydd erioed wedi mynd ar ôl y cyfarfodydd hyn ymhellach, erioed wedi olrhain cydnabyddiaeth y llythyrau hyn, ac erioed wedi taro ar ddrysau'r Llywodraeth i gael eu clywed.
Mae'r comisiynydd hefyd yn disgrifio eu bod yn arsylwyr y grŵp pwyslais ar incwm, nad oes ganddo, yn ddiddorol, bwyslais na ffrwd waith penodol sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â thlodi plant, ac nid oes strategaeth na chynllun gweithredu cyfredol ar fynd i'r afael â thlodi plant, er gwaethaf galwadau dros ar ôl tro am bwyslais penodol ar y maes pwysig hwn. Rwy'n credu bod hyn yn ddiffyg cynnydd eithaf pryderus, o ystyried mai Cymru sydd â'r lefelau uchaf o dlodi plant o bob cenedl yn y DU, ac un o bob tri o blant bellach yn byw mewn tlodi, ac mae’n dangos yn benodol fod swyddfa'r comisiynydd plant naill ai'n gwbl ddi-rym i roi effaith sylweddol yn y maes hwn, neu nad yw'n herio Llywodraeth Cymru a'r DU o ddifrif yn hyn o beth. Yn syml, mae swyddfa'r comisiynydd wedi cwblhau'r ymarfer ticio blychau o ymddangos fel pe bai'n helpu i ddelio â thlodi plant drwy anfon llythyrau a gofyn am gyfarfodydd, ond yn y pen draw wedyn dydyn nhw heb fynd ar drywydd nac olrhain hyn ymhellach. Felly, rwy’n gofyn i'r Gweinidog: wrth symud ymlaen, pa ddisgwyliadau sydd gennych chi y bydd y comisiynydd plant newydd wir yn mynd i'r afael â'r broblem hon? Nid yw ysgrifennu llythyrau heb hyd yn oed gael ymateb yn mynd i fod yn ddigon da.
Gweithwyr o Gymru sydd â'r cyflogau isaf yn y DU ym mhob un diwydiant, sy'n golygu nad oes gan gartrefi o reidrwydd yr un cydnerthedd ariannol â'u cymheiriaid yn y DU. Mae'r taliadau budd-dal mae gan rai pobl yr hawl iddyn nhw werth mwy na'r cyflog y gallan nhw ei dderbyn o weithio'n llawn amser, hyd yn oed os ydyn nhw'n cael eu talu'n uwch na'r cyflog byw cenedlaethol. Ac yn y pen draw, dyma un o achosion sylfaenol tlodi plant ar raddfa eang. Gyda hyn mewn golwg, mae'n rhaid i gomisiynydd plant Cymru wthio llawer yn galetach a chael gwell dealltwriaeth o'r achosion pennaf o dlodi plant yng Nghymru.
Gan droi at lysgenhadon cymunedol, sy'n cael eu crybwyll yn yr adroddiad, mae'r cynllun yn amlwg yn un sydd â photensial mawr o ran ymgysylltu ehangach, yn enwedig gyda grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd fel arfer. Ond heblaw am un digwyddiad ar-lein a gynhaliwyd gyda gofalwyr ifanc yn y gogledd, y pellaf i'r gogledd mae’r comisiynydd wedi llwyddo i ymweld yw Merthyr Tudful, a meddwl ydw i tybed pam. Siawns nad oes grwpiau cymunedol ymhellach i'r gogledd a fyddai wedi croesawu rhywfaint o ymgysylltu â'r comisiynydd plant a'i swyddfa. Nid oes sôn naill ai yn ‘Gyda’n Gilydd!' na'r rhaglen llysgenhadon ysgolion am ddosbarthiad daearyddol y cyfranogwyr, ac felly hoffwn bwysleisio i'r Gweinidog fod angen peth ymrwymiad gan y comisiynydd bod ei swyddfa yn mynd ati i ymgysylltu â phob rhan o Gymru yn weithredol ac nid mynd i ardaloedd sy'n hawdd eu cyrraedd o'r brif swyddfa yn unig. Mae'r pwynt hwn hefyd yn seinio’n glir gyda lefel yr ymchwiliadau a'r gefnogaeth sydd wedi'i gynnig hefyd. O'r 604 o achosion eleni, cofnodwyd fod traean ohonynt yn dod o Gaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe, a byddai wedi bod yn ddefnyddiol gwybod beth oedd y dosbarthiad llawn ledled Cymru, oherwydd byddai'n helpu i nodi ardaloedd lle mae angen mwy o amlygrwydd i’r comisiynydd.
O ran sylwadau'r comisiynydd mewn perthynas â'r rhai oedd wedi gadael gofal, mae'r comisiynydd wedi nodi bod angen i bob person sy'n gadael gofal fod â chynghorydd personol penodedig, a dywedodd er bod cyllid ar gael, nad yw'r newid statudol i wreiddio'r ddarpariaeth hon wedi dod i rym, ac na fydd y newid deddfwriaethol i wneud i hyn ddigwydd, wedi’i amserlennu’n wreiddiol ar gyfer 2022-23, yn digwydd tan 2024 ar y cynharaf bellach. O ystyried bod Llywodraeth Cymru'n gwario £20 miliwn ar dreialu incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, pam nad yw'r Llywodraeth hon yn gallu sicrhau bod gan bob person sy'n gadael gofal fynediad at gynghorydd personol? Hoffwn herio Llywodraeth Cymru ymhellach a gofyn p’un a yw'r rhai sy'n optio mewn i’r treial incwm sylfaenol cyffredinol yn mynd i gael cynghorydd personol penodol ai peidio, oherwydd mae'n mynd i fod yn ddull cefnogi a fydd yn hanfodol i rai, yn enwedig gan eu bod nhw’n cael £20,000 y flwyddyn i'w wario.
Yn olaf, rwyf i am godi pwynt ar y lefelau uchel o waharddiadau tymor penodol ar gyfer plant tair i saith mlwydd oed yn y cyfnod sylfaen. Rwy'n gwerthfawrogi bod y data rhwng 2017-18, ond mae'n ymddangos i mi fod bron i 80,000 diwrnod o ddysgu yn cael eu colli i waharddiadau yng Nghymru, ac mae hyn yn ymddangos yn rhy uchel, yn enwedig o ystyried ei bod yn debygol bod rhai o'r un plant yn cael eu gwahardd dro ar ôl tro. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn herio'r Llywodraeth a'r comisiynydd ar y pwynt hwn. Mae'r ffaith i hyn fod yn syndod i'r comisiynydd, a'u bod yn adrodd amdano bum mlynedd yn ddiweddarach, yn dangos yn glir nad yw swyddfa'r comisiynydd yn cadw llygad digon agos ar y mathau hyn o ystadegau.