Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 18 Hydref 2022.
A gaf i adleisio'r geiriau sydd eisoes wedi’u mynegi o ran diolch i Sally Holland am ei chyfnod o dros saith mlynedd? Rwy'n credu bod ei darlith ymadael, hefyd, yn rhywbeth i nifer ohonom ni gnoi cil drosto, gan fyfyrio ar yr heriau yr oedd hi'n credu oedd yn dal i wynebu cymaint o blant a phobl ifanc. Hoffwn hefyd groesawu'r comisiynydd plant newydd, sydd wedi dangos yn barod yn ei rôl y bydd hi'n dilyn yn ôl troed Sally ac yn blaenoriaethu lleisiau plant a phobl ifanc Cymru.
Rwy'n credu ei fod yn dangos yn yr adroddiad hwn beth yw gwerth cael rôl allweddol y comisiynydd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gynrychiolaeth honno, ond eu bod nhw’n cael cynnig y cyfleoedd hynny fel bod eu lleisiau uniongyrchol eu hunain yn cael eu clywed. Rwy’n meddwl mai un o'r pethau rydw i wedi myfyrio arno, wrth ddarllen yr adroddiad, oedd y ffaith bod cymaint o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan—miloedd ar filoedd o'r lleisiau yna wedi’u clywed ac wedi cael gwrandawiad—a hefyd yr hyfforddiant o ran hawliau plant, o godi ymwybyddiaeth ac ymwybyddiaeth barhaus, achos mae'n her barhaus, i sicrhau ein bod ni'n parchu ac yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc. Rydym ni wedi gweld gwerth hynny yn ein gwaith ein hunain drwy bwyllgorau'r Senedd, ac rwy'n credu ei bod hi'n glir o'r adroddiad y rôl werthfawr mae swyddfa'r comisiynydd plant yn ei chwarae wrth ddarparu tystiolaeth a'n herio ni fel gwleidyddion ar rai o'n penderfyniadau hefyd. Hir y parhaed hynny, oherwydd mae'n bwysig bod hynny'n dylanwadu ar bolisi.
Rwy'n credu mai'r un peth i fyfyrio arno o ran rhai o'r heriau a sut rydyn ni'n ymateb—fe wnes i eich clywed chi, Gweinidog, yn amlwg, yn cyfeirio at ddulliau dylanwadu’r DU a rhai o bethau nad ydyn nhw o fewn ein rheolaeth, na allwn ni newid, ond os ydyn ni'n canolbwyntio'n benodol ar yr argymhellion yn yr adroddiad ynghylch tlodi plant, yn amlwg, rhywbeth a gafodd ei hyrwyddo hefyd dros dymor saith mlynedd Sally Holland fel comisiynydd—. Bydd llawer ohonom ni’n cofio'r targed hwnnw o ddileu tlodi plant erbyn 2020, a chael gwared ar hwnnw wedyn yn 2016. Byddwn yn adleisio galwadau'r comisiynydd plant i sicrhau bod y cynllun hwnnw ar waith. Rydw i’n meddwl bod peidio â chael y cynllun penodol yna gyda thargedau, fel ein bod ni'n gallu mesur cynnydd, yn rhywbeth sy'n ddiffygiol ar hyn o bryd, ac mae'n eithaf syfrdanol nad oes cynllun gweithredu penodol ar fynd i'r afael â thlodi plant. Mae gennym ni nifer o fesurau—pethau yr ydym ni’n hynod falch ohonynt ym Mhlaid Cymru yr ydym ni wedi gallu eu sicrhau, wrth gwrs, drwy'r cytundeb cydweithredu rhwng y ddwy blaid; pethau, fel y pwysleisiwyd yn yr adroddiad, megis ymestyn prydau ysgol am ddim ac ehangu gofal plant. Ond mae angen i ni fynd y tu hwnt i hynny, ac rwy’n credu, gyda phopeth sydd yn dod o ran y toriadau pellach rydyn ni am eu gweld gydag awdurdodau lleol a phopeth, mae yna risg gwirioneddol fod y sefyllfa am waethygu os nad oes gennym ni gynllun i fynd i'r afael â hyn a hefyd os nad ydyn ni'n monitro effaith ein holl bolisïau, a monitro lle gallwn ni wneud gwahaniaeth, o ystyried ein bod ni’n gwybod y bydd y pwysau'n cynyddu.
Y maes arall yr hoffwn i ganolbwyntio arno yw'r adran ar addysg yn y cartref a'r argymhellion penodol yno, sy’n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi cynllun gwerthuso ar gyfer gweithredu canllawiau statudol newydd ochr yn ochr â'r canllawiau hynny. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o bryderon sydd wedi eu codi gyda nifer ohonom o ran addysg yn y cartref. Er bod Plaid Cymru wedi cytuno gyda bwriad y cynigion, sef sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael addysg addas, rydym ni’n dal i gredu nad yw'r canllawiau hynny, neu’r canllawiau drafft ar hyn o bryd, yn gwahaniaethu rhwng y rhai sydd wedi dewis addysgu eu plant yn y cartref ac yn teimlo eu bod nhw’n mynd i gael eu monitro neu eu drwgdybio, mewn cyferbyniad â'r plant hynny nad ydyn nhw’n derbyn unrhyw fath o addysg ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod rhai pethau sy’n cael eu codi yma fel pryderon yr hoffwn i i Lywodraeth Cymru fod yn mynd i'r afael â nhw.
Ond rwy'n credu mai'r un peth sy'n glir iawn yma yw bod effeithiau COVID, fel sy’n cael ei egluro yn yr adroddiad, wedi bod yn helaeth ar ein plant a'n pobl ifanc a byddant yn parhau i fod felly. Bydd yr argyfwng costau byw hefyd yn effeithio'n anghymesur ar ein plant a'n pobl ifanc. Felly, y pwynt yr hoffwn i ei bwysleisio, wrth gloi, Gweinidog, yw: a allwn ni sicrhau bod cynllun gweithredu tlodi plant, fel sy'n cael ei hyrwyddo gan y comisiynydd plant a'r adroddiad hwn, ar waith, fel ein bod ni’n gallu gwneud y newidiadau hynny mae ein plant a'n pobl ifanc eu hangen mor daer? Diolch.