9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 18 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 4:15, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae adroddiadau blynyddol bob amser yn ôl-weithredol, ond mae'r adroddiad blynyddol hwn hyd yn oed yn fwy ôl-weithredol nag arfer, oherwydd, wrth gwrs, eleni, mae'r comisiynydd presennol yn adrodd ar waith ei rhagflaenydd. Gyda hynny mewn golwg, hoffwn ddiolch i Sally Holland, unwaith eto, am bopeth a wnaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy gydol ei chyfnod, a llongyfarchiadau, unwaith eto, i Rocio Cifuentes ar ei phenodiad. Gobeithio eich bod chi wedi ymgartrefu yn dda, comisiynydd.

Nôl ym mis Rhagfyr 2021, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrandawiad cyn penodi gyda Ms Cifuentes. Fe wnaethom ei hannog hi a'i swyddfa i fyfyrio ar ambell beth wrth iddyn nhw gynllunio a chyflawni eu gwaith, gan gynnwys sut maen nhw'n sicrhau eu bod nhw’n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ledled Cymru gyfan, a sut maen nhw'n gwerthuso effaith eu gwaith fel ei bod hi'n glir sut mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc o ddydd i ddydd. Fe ddown ni’n ôl at y themâu hynny pan fyddwn ni’n craffu ar y comisiynydd ar ei hadroddiad blynyddol ar 17 Tachwedd.

Y tu allan i graffu ar yr adroddiad blynyddol, rydym ni’n manteisio ar arbenigedd y comisiynydd i lywio ein gwaith craffu. Felly, mae gen i ddiddordeb arbennig yng ngherdyn adroddiad y comisiynydd yn ei hadroddiad blynyddol. Mae'r cerdyn adroddiad yn nodi barn y comisiynydd am gynnydd Llywodraeth Cymru yn erbyn materion polisi allweddol. Mae'r materion polisi canlynol yn atseinio'n arbennig o gryf gyda'n gwaith ni.

Y cyntaf yw mynd i'r afael â thlodi plant. Rwy'n cytuno, rydym ni ar fin profi argyfwng costau byw ac, fel pwyllgor, rydym ni wedi cytuno i ganolbwyntio ar effaith negyddol anfantais ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc. Ychydig dros flwyddyn sydd wedi bod ers i'n pwyllgor gael ei ffurfio, ond mae eisoes yn boenus o glir faint o'r heriau mae ein plant yn eu hwynebu sy’n deillio o dlodi. Fel mae’r comisiynydd yn ei gynghori, byddwn yn rhoi sylw manwl i strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru, sydd i fod i gael ei chyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Yr ail yw pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Fel y comisiynydd, cawsom ein hannog gan yr ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu i:

'Ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal.'

Yn anffodus, rydym ni hefyd yn cytuno â'r comisiynydd bod cynnydd ar y gwaith pwysig hwn wedi bod yn rhy araf. Mae angen tryloywder ynglŷn â beth mae'r ymrwymiad hwn yn ei olygu yn ymarferol. Yn ddiweddar rydym ni wedi lansio ymgynghoriad yn gofyn i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, rhieni biolegol, rhanddeiliaid ac academyddion sut maen nhw'n credu y dylai diwygiadau radical edrych. Beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal? Ein gobaith yw y bydd yr ymchwiliad hwn yn cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth, sydd i’w groesawu, i archwilio a gweithredu'r diwygiad radical mae plant a phobl ifanc ei angen.

Ac yn olaf, iechyd meddwl ysgol gyfan: rydym ni wedi clywed pryderon am iechyd meddwl ein dysgwyr dro ar ôl tro drwy gydol ein gwaith, fel effaith o aflonyddu rhywiol ymysg dysgwyr, fel achos o absenoldeb disgyblion, a thu hwnt i addysg statudol i addysg uwch. Rydym ni’n cytuno â'r comisiynydd bod ysgolion yn lleoliad delfrydol i gefnogi plant gyda'u hiechyd meddwl, ac yn croesawu cynnydd Llywodraeth Cymru y mae'r comisiynydd wedi ei gydnabod yn ei hadroddiad. Byddwn yn parhau i wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau bod y Llywodraeth yn adeiladu ar y cynnydd hwnnw i ddarparu'r cymorth iechyd meddwl mae ein plant yn ei haeddu.

Mae llawer mwy o feysydd polisi hanfodol bwysig yn yr adroddiad hwn, a dim digon o amser i'w trafod i gyd. Ond rwy'n annog holl Aelodau'r Senedd, y rhai sydd yn y Llywodraeth a'r tu allan iddi, i ddarllen yr adroddiad hwn a defnyddio canfyddiadau'r comisiynydd i lywio eu gwaith. P'un a yw plant yn rhan benodol o bortffolio cylch gwaith neu weinidogaethol eich pwyllgor ai peidio, mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ystyried eu hawliau ym mhob penderfyniad mae'n ei wneud. Mae'r adroddiad hwn yn berthnasol i bob un ohonom ni.

Ac i’r comisiynydd ei hun, rwy’n edrych ymlaen at drafod ei hadroddiad yn fanylach ar 17 Tachwedd, ac adeiladu ar y berthynas gadarnhaol rhwng ei chomisiynwyr rhagflaenol a'n pwyllgorau rhagflaenol wrth fynd ar drywydd ein pwrpas cyffredin: gwella bywydau plant a phobl ifanc Cymru. Diolch.