Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 18 Hydref 2022.
Hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i ddiolch i Gomisiynydd Plant Cymru am yr adroddiad hwn, a chroesawu'r comisiynydd newydd, Rocio Cifuentes, i'w rôl. Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith mae Rocio'n ei gyflawni drwy ymgysylltu â phobl ifanc, gan wneud Cymru'r lle gorau i dyfu i fyny fel person ifanc. Mae'n wych gweld sut mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ymgysylltu â grwpiau dan arweiniad ieuenctid yn fy nghymuned fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r adroddiad yn sôn am ymgysylltu â chlwb ieuenctid cynhwysol Pen-y-bont ar Ogwr ac YMCA Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydw i wedi gweithio gyda phobl ifanc yn y clybiau i ddatblygu adnoddau a deunyddiau sy'n berthnasol i'w hanghenion, ac anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu.
Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am Brosiect Pleidlais a welodd pobl ifanc 16 mlwydd oed yn pleidleisio am y tro cyntaf yn ein hetholiadau llywodraeth leol diweddar. Roedd modd i fyfyrwyr Ysgol Gyfun Cynffig yn fy etholaeth i gymryd rhan mewn cynllun treialu a oedd yn caniatáu iddyn nhw bleidleisio yn yr ysgol dros dridiau. Roedd hi’n wych eu gweld nhw’n cynrychioli lleisiau pleidleiswyr ifanc yn The Guardian, lle roedden nhw'n siarad am ba mor bwysig oedd hi iddyn nhw allu pleidleisio ac am ffyrdd o wneud pleidleisio'n fwy hygyrch.
Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am y gwaith mae'r comisiynydd yn ei wneud o ran yr adolygiad teithio gan ddysgwyr. Rwyf wedi cwrdd â'r comisiynydd blaenorol ynglŷn â'r mater hwn, a disgyblion yng Nghorneli sy'n ymgyrchu dros wella mynediad i drafnidiaeth ysgol. Mae'r newid mewn meini prawf tair milltir i ddwy filltir ar gyfer mynediad at bàs bws wedi effeithio'n fawr ar y bobl ifanc yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol, gan gynnwys eu hiechyd meddwl a'r nifer sy’n chwarae offerynnau cerdd. Y gaeaf hwn, bydd plant mor ifanc ag 11 mlwydd oed yn cerdded i'r ysgol yn y glaw ac yna'n eistedd mewn dillad gwlyb socian drwy'r dydd. Fel y dywed yr adroddiad, mae hwn yn fater sy'n cael effaith ar ddisgyblion ledled Cymru, ac rwy'n cytuno gyda'r adroddiad bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru nodi amserlenni yn glir a gyda brys i sicrhau newid cadarnhaol erbyn diwedd tymor y Senedd, a rhaid i farn pobl ifanc gyfrannu at gam nesaf y gwaith hwnnw.
Mae'r adroddiad yn archwilio'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ac rwyf i wedi siarad â'r comisiynydd am fy mhrofiadau fy hun o anorecsia ar ôl rhannu yma yn y Siambr. Felly mae'n wych clywed am TERMS, prosiect monitro o bell wedi'i alluogi gan dechnoleg mewn ysgolion gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion sydd wedi'i gyd-gynllunio gyda disgyblion Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r prosiect nawr yn cael ei dreialu. Daeth y prosiect hwn yn dilyn gofyn yn uniongyrchol i ddisgyblion pa faes o iechyd meddwl yr oedden nhw am ei archwilio. Cafodd anhwylderau bwyta ei godi fel y maes allweddol yr oedden nhw am gael mwy o ymchwil mewn cysylltiad ag ef.
Ac yna, yn olaf, hoffwn dynnu sylw at gydnabod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn—yr offer sy'n sail i bob polisi a deddfwriaeth sy'n effeithio ar bobl ifanc. Ers cael fy ethol, rydw i wedi bod yn gweithio gyda chynghorau ysgol a chyngor ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Pippa King o Biometrics in schools a Jen Persson o Defend Digital Me, ar y defnydd cynyddol o ddata biometreg sy'n cael ei gasglu a'i ddefnyddio mewn ysgolion. Yn 2021, cefais wybod am ysgolion lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno technoleg i gasglu a defnyddio olion bysedd plant ar gyfer prydau bwyd amser cinio. Mae technolegau oedd yn cael eu defnyddio unwaith gan asiantaethau cudd-wybodaeth y wladwriaeth bellach yn cael eu defnyddio ar ein plant ar gyfer trafodiadau ariannol. Fe wnaeth llythyrau caniatâd a anfonwyd at rieni fframio'r defnydd o gasglu data olion bysedd fel rhywbeth mwy diogel i blant, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru canllawiau, gan egluro mai mater i'r plentyn bob amser yw gwneud y penderfyniad ar roi eu data ai peidio. Ond wrth siarad â phobl ifanc yn fy nghymuned i, dydyn nhw ddim yn ymwybodol o hyn, ac maen nhw'n meddwl mai mater i'w rhieni yw hynny.
Yn y bôn, pan fydd gan rywun gyfrinair, mae'n rhywbeth y gallwch chi ei newid neu ei ailosod; mae ôl bys yn rhywbeth yr ydych chi—mae'n rhan ohonoch chi. Pan fydd y data hwnnw'n cael ei beryglu, mae'n cael ei beryglu am oes. Ac nid yw'r technolegau hyn ychwaith yn ddiogel rhag gollyngiadau ac ecsbloetio data, yn union fel y gwelsom mewn ysgolion ledled Cymru gydag apiau ieuenctid—yr ap o’r Unol Daleithiau, Seesaw—pan gafodd ei system ei hacio ac anfonwyd delweddau o natur rywiol i blant. Mae Erthygl 16 o'r CCUHP yn dweud bod gan bob person ifanc yr hawl i breifatrwydd, ac eto, yr hyn rydyn ni'n ei weld yw bod technolegau ymwthiol yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion a heb y wybodaeth i bobl ifanc ddeall pwy sy'n casglu eu data personol a sut mae'n cael ei ddefnyddio nawr ac yn y dyfodol. Felly, byddwn yn croesawu'r cyfle felly i drafod y pryderon hyn a godwyd gyda mi gan bobl ifanc, gyda'r comisiynydd, ac effaith bosibl technolegau digidol sy'n cael eu defnyddio mewn lleoliadau addysgol ledled Cymru. Diolch.